Mae Llywodraeth Cymru ac Advicelink Cymru wedi lansio ymgyrch ‘Hawliwch Eich Hawl’ i annog pobl yng Nghymru i gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, gan gynnwys Credyd Pensiwn.
Gyda newidiadau diweddar i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, dim ond y rhai sy’n derbyn budd-daliadau penodol, megis Credyd Pensiwn, fydd bellach yn gymwys.Mae pecyn adnoddau dwyieithog wedi’i ddatblygu, gan gynnwys taflenni digidol, posteri a graffeg cyfryngau cymdeithasol i helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth.
Am fanylion llawn a mynediad at yr adnoddau, dilynwch y ddolen yma.