@Gartref 2021-22

Datblygu Clwstwr Tîm Amlddisgyblaeth

Yn y gwaith trawsnewidiol yn gysylltiedig â Chlwstwr De Orllewin Caerdydd gwelwyd gwelliannau sylweddol mewn gofal cleifion, gyda thystiolaeth glir o lai o ymweliadau heb eu cynllunio â’r ysbyty o gymharu â chlystyrau eraill.  

Adborth am y gwasanaeth:  Gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth 

“Mae hyn wedi fy helpu i gymaint, ac rwy’n teimlo erbyn hyn fy mod yn dechrau cyrraedd y lan. Rwyf nawr mewn cysylltiad â’r bobl a all fy helpu i wella. Diolch yn fawr.”  

“Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl ac wedi mynychu grwpiau yn y Dusty Forge. Mae pawb wedi bod mor gefnogol.”  

“Gwasanaeth anhygoel. Pan adawodd rhywun neges imi, gwnaeth hynny godi fy ysbryd. Mae gen i sicrwydd go iawn bod rhywun yno i mi.”  

Gan y staff:  

“Mae’r gallu i achos i’r tîm llesiant wedi gweddnewid popeth. Mae hynny wedi’n galluogi i ganfod atebion eraill ar wahân i atebion meddygol i broblemau o natur gymdeithasol neu sy’n ymwneud â llesiant.”  

“Mae defnyddio’r system elfennol ar gyfer atgyfeirio wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi helpu i gynyddu atgyfeiriadau gan ei bod yn llawer haws atgyfeirio i un man canolog na gorfod cofio pa ffurflen i’w defnyddio.”  

“Mae’r gwaith i gysoni meddyginiaethau a chysylltu â chleifion wrth eu rhyddhau wedi cael ei groesawu’n fawr. Mae cleifion yn gwerthfawrogi galwad ffôn gan yr Hyb yn fawr wrth gael eu rhyddhau gan fod hynny’n aml ar yr adeg gywir i drafod problemau y gallent fod yn eu cael ar ôl rhyddhau o’r ysbyty”  

 

Gwasanaeth Rhyddhau Integredig    

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld pwysau sylweddol yn ein hysbytai yn sgil y pandemig parhaus. Gwelwyd hyn yn arbennig o amlwg dros y gaeaf, pan oedd cynnydd yn y niferoedd a oedd yn mynd i’r ysbyty a’r gostyngiad o ran mynediad at ofal a chymorth yn y gymuned yn golygu bod cydgysylltu’r broses o ryddhau cleifion yn datblygu’n flaenoriaeth er mwyn cadw pobl yn ddiogel.  

Bu gwasanaeth rhyddhau integredig ICF y BPRh yn gweithio ochr yn ochr â phrosiect Get Me Home y Gronfa Trawsnewid er mwyn helpu i gydgysylltu’r broses o ryddhau cleifion mor gyflym â phosib. Gwnaed hyn drwy gydgysylltu timau yn yr ysbyty ag adnodd cymunedol, y gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a gwasanaethau cymorth cymunedol eraill, i sicrhau bod y gefnogaeth wedi’i threfnu i bobl allu dychwelyd adref yn ddiogel. 

Adborth gan staff y ward: 

“Maen nhw’n grŵp gofalgar o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n galed, ac ar raddfa ehangach maen nhw o gymorth mawr i hyrwyddo llif cleifion…yn enwedig yng nghyd-destun y cyfyngiadau ehangach sydd wedi gwaethygu yn sgil Covid.” (Meddyg Ymgynghorol Gofal yr Henoed)  

“Ceir gwell cyfathrebu ar y ward rhwng staff iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol wrth ddisgwyl am wybodaeth am becynnau gofal a chyfathrebu â gweithwyr cymdeithasol.” (Therapydd Galwedigaethol)  

“Drwy gael cefnogaeth mae cleifion yn cael eu rhyddhau mewn modd diogel ac effeithlon, gan olygu bod cleifion yn treulio llai o amser yn yr ysbyty. Fel rheolwr ward newydd, mae’r tîm FPOC wedi rhoi arweiniad ac addysg imi.” (Rheolwr Ward) 

Adborth gan y staff sy’n ymwneud â’r gwasanaeth: 

Mae’n wych gallu gwneud gwahaniaeth bach go iawn i brofiadau pobl yn yr ysbyty a rhoi sicrwydd iddynt nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain … Rydyn ni’n gwneud yn siŵr eu bod yn cadw cysylltiad â’u cymuned a’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.”  

“Rwy’n gweithio gyda thîm gwych o bobl o’r un anian ar draws Ysbyty Athrofaol Cymru, sy’n dod ynghyd i helpu cleifion i gyflawni’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.”  

“Rwy’n mwynhau’r rowndiau bwrdd mewn tîm trawsffiniol, datrys problemau gyda’n cydweithwyr a rhannu gwybodaeth am y gymuned er mwyn cael y datrysiadau gorau i’r claf a sicrhau’r cyfraddau rhyddhau gorau posib.”  

Gwella Mynediad at Wasanaethau  

129,451 o alwadau ar draws ein gwasanaethau mynediad yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gan ymdrin â’r rhan fwyaf o ymholiadau ar y cyswllt cyntaf fel bod problemau’n cael eu datrys yn gyflym.  

Ffocws allweddol ein rhaglen @Gartref, a hefyd ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig (ICF), oedd cynnig mynediad symlach at wasanaethau, gyda llai o atgyfeiriadau ac ymagwedd tîm amlddisgyblaeth. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus yn achos ein prosiectau ICF ac yn un o gonglfeini ein rhaglen waith newydd.  

Skip to content