Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn cynnal digwyddiad ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu i wella mynediad at wybodaeth a chymorth ynghylch rhyw a chydberthnasau.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o waith da yn digwydd ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod angen cymorth ar bobl i ddod o hyd i wybodaeth.

• Rydym yn gwybod y gallai hwn fod yn bwnc anodd ond rydym am greu amgylchedd diogel i bobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
• Hoffem i’ch sefydliad fod yn rhan o redeg y digwyddiad.
• Rydym am i’r digwyddiad gynnwys pawb.
• Rydym am i’r digwyddiad ganolbwyntio ar wella mynediad at wybodaeth a chymorth.
• Rydym eisiau i bobl adael yn teimlo’n hapus a’u bod wedi cael hwyl.
• Rydym am gynnwys pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr a’u rhieni.
Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â’r e-bost hwn: [email protected]