Mae Cronfa Gyfalaf y Trydydd Sector 2026/27 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae sefydliadau cymunedol a gwirfoddol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid drwy Gronfa Gyfalaf y Trydydd Sector 2026/27.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi dyrannu £100,000 o Gronfa Tai gyda Gofal Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau. Caiff y gronfa ei rheoli a’i gweinyddu gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £12,500 ar gyfer prosiectau cyfalaf sy’n gwella gwasanaethau cymunedol ac yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth. Gellir defnyddio’r cyllid i wella cyfleusterau, cynyddu hygyrchedd, prynu offer cyfalaf a datblygu mannau cymunedol sy’n galluogi pobl i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.

Mae’r gronfa’n canolbwyntio’n benodol ar brosiectau sy’n cefnogi:

  • Pobl hŷn, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia
  • Plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
  • Pobl ag anableddau dysgu, a chyflyrau niwrowahanol a niwroddatblygiadol
  • Gofalwyr di-dâl
  • Pobl ag anghenion iechyd emosiynol a lles meddyliol

Dylai prosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn:

  • Cefnogi byw’n annibynnol mewn cymunedau lleol
  • Darparu gwasanaethau yn nes at gartrefi pobl
  • Helpu i atal neu leihau’r angen am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy ffurfiol
  • Adeiladu ar gryfderau ac asedau cymunedol
  • Creu buddion hirdymor i bobl leol

Mae’r gronfa bellach ar agor, a rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12 canol dydd ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 26 Chwefror 2027.

I weld y canllawiau llawn, y meini prawf cymhwystra a’r pecyn ymgeisio, ewch i:

https://www.gvs.wales/news/third-sector-capital-fund-202627

Os oes gan eich sefydliad brosiect a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn eich annog i wneud cais.

Skip to content