Making a difference: Moss Rose Cottage

Bu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yn cydweithio i ddarparu grantiau bach yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl Caerdydd a’r Fro.

Derbyniodd Moss Rose Cottage arian ar gyfer amrywiaeth o offer i helpu i’w sefydlu, er enghraifft, byrddau, cadeiriau, bwrdd snwcer, cyflenwadau celf, peiriannau argraffu ac offer coginio. Mae’r ffilm fer hon yn egluro’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar fywydau pobl o oedran gweithio sydd â rhwystrau ‘anweledig’ fel anafiadau i’r ymennydd, syndrom ôl-feirysol, problemau iechyd meddwl lefel isel a chyflyrau cronig eraill.

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a ddarparodd arian gan y Gronfa Gofal Integredig. Mae hyn yn canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, gofal integredig a gwasanaethau cymorth a darparu modelau darparu amgen.

Moss Rose Cottage

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content