Prosiect Ocsid Nitrus

Fel rhan o’n hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed o allyriadau carbon sero-net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030, rydym yn gweithio ar lawer o brosiectau a mentrau gwahanol i ddarparu gofal iechyd mwy cynaliadwy. Un o’r prosiectau hyn yw’r Prosiect Ocsid Nitrus a’i nod yw lleihau ein heffeithiau amgylcheddol ac ariannol drwy ddarparu nwy ocsid nitrus anesthetig i’n wardiau drwy silindrau cludadwy yn hytrach na thrwy hen systemau pibellog.


Bydd y prosiect yn arbed tua 1 miliwn litr o ocsid nitrus y flwyddyn, sy’n cyfateb i 535 tunnell o CO2. Ein nod yw lledaenu’r prosiect hwn ledled Cymru a sicrhau newid diwylliant i ffwrdd o ddefnydd N2O. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, rydym yn cyflwyno’r defnydd o silindrau ocsid nitrus bach. Profodd y peilot hwn fod darparu’r nwy drwy’r dull hwn yn fwy effeithlon na phibellu’r nwy drwy ysbyty. Mae manteision pellach i symud i gyflenwad silindr cludadwy, megis llai o wariant ar y nwy gan fod llai yn cael ei ddefnyddio. 


Yn Ysbyty Athrofaol Llandochau rydym wedi gosod silindrau ocsid nitrus cludadwy ar drolïau, bydd un ar gael fesul ardal theatr glinigol. O ganlyniad i hyn, rydym yn datgomisiynu’r maniffold ocsid nitrus yn YALl ddechrau mis Ebrill. Sylwch y bydd y maniffold ocsid nitrus yn aros yn ei le yn yr adran Ddeintyddol heb unrhyw fwriad i newid y ffordd y caiff ocsid nitrus ei gyflenwi i’r ardal hon. 


I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch ag [email protected] neu [email protected].

Skip to content