Rhwydwaith Dechrau’n Dda C3SC yn cyfarfod fis Medi

Bydd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn cynnal ei gyfarfod nesaf o’r Rhwydwaith Dechrau’n Dda ddydd Mawrth 22 Medi yng Nghanolfan Gymunedol Butetown.

Mae’r rhwydwaith yn rhoi cyfle i sefydliadau’r trydydd sector sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ddod ynghyd, meithrin cysylltiadau, rhannu gwybodaeth a chyfrannu at waith partneriaeth ehangach ledled Caerdydd.

Mae perthnasoedd cryf gyda’n partneriaid yn y trydydd sector yn rhan bwysig o uchelgais y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Medi 2026
Amser: 2pm–4pm
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Butetown, 40 Sgwâr Loudoun, Caerdydd

Ewch i wefan C3SC i ddysgu rhagor.

Skip to content