Stori Ben 

ASTUDIAETH ACHOS

Stori Ben

Roedd Ben yn ymwneud ag arwain sefydliad yn y sector gwirfoddol ond roedd mewn categori risg uchel ac yn cael ei ystyried yn glinigol agored i niwed. O ganlyniad, dechreuodd Ben ynysu cyn i’r cyfnod clo cenedlaethol gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2020. Oherwydd y risgiau o drosglwyddo, bu’n rhaid i’w ŵyr symud allan a bu’n rhaid i Ben fyw ar ei ben ei hun. Roedd ei gyflwr iechyd yn golygu na allai yrru mwyach.

Er gwaethaf yr unigrwydd disgrifiodd Ben y gweithgareddau ar-lein drwy Zoom fel rhai sydd wedi helpu i’w gael drwy’r sefyllfa. At hynny, roedd yn ei chael yn rhyddhad defnyddiol o bwysau i gael rhywun arall i arwain grŵp, sef ei rôl fel arfer yn ei sefydliad. 

Skip to content