Stori Carol

ASTUDIAETH ACHOS

Stori Carol

Dioddefodd Carol o bryder gwanychol a disgrifiodd ei hun fel un oedd â diffyg hyder, hunan-barch isel a bod mor ynysig gan nad oedd hi bron byth wedi gadael y tŷ. Ar ôl cael gwybod am y Caffi Lles gan berthynas, dechreuodd fynychu sesiynau.

“Rwy’n dioddef gyda phryder felly gall gadael a mynd drwy ddrws fy sbarduno, ond roeddwn yn gwybod bod angen i mi fynd oherwydd bod gennyf blant iau a dewisais [y Caffi Lles] yn hytrach na dim byd arall oherwydd dywedodd pobl y byddai’n iawn.”

Rhoddodd y Caffi le i Carol lle gallai dreulio amser gyda phobl eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft, a oedd yn apelio’n gryf. Er ei bod yn teimlo bod angen perthynas i fynd gyda hi am y pythefnos cyntaf, erbyn y drydedd wythnos roedd hi’n ddigon hyderus i fynd ar ei phen ei hun.

“Roedd fel bod gartref ond gyda phobl oedd yn gallu deall, oedd heb gwestiynau, wnaeth fy nerbyn i am bwy ydw i, ond hefyd eisiau gwneud celf.”

“Roedd fel bod gartref ond gyda phobl oedd yn gallu deall, oedd heb gwestiynau, wnaeth fy nerbyn i am bwy ydw i, ond hefyd eisiau gwneud celf.”

Skip to content