Gwerth Cymdeithasol
Yn y blynyddoedd blaenorol, sefydlodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro Fforwm Gwerth Cymdeithasol i’r dibenion canlynol:
- Cynyddu canlyniadau cadarnhaol a llesiant pobl leol hyd yr eithaf;
- Dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol;
- Ychwanegu gwerth a ffocws at yr hyn sy’n bwysig i bobl mewn modd sy’n rhagori ar werth ariannol yn unig, er enghraifft drwy:
- Wella llesiant
- Adeiladu cymunedau mwy diogel,
- Cynyddu cyfleoedd i wireddu potensial hyd yr eithaf,
- Gwella’r amgylchedd ffisegol,
- Cefnogi economïau lleol.
Os hoffai unrhyw sefydliadau fynegi diddordeb mewn ymuno â’r fforwm, e-bostiwch h[email protected] gyda’r llinell pwnc ‘Fforwm Gwerth Cymdeithasol’.