Gall pobl ag anableddau corfforol a/neu golled synhwyraidd wynebu ystod eang o rwystrau yn ein cymdeithas. Mae Caerdydd yn anelu at ddod yn Ddinas sy’n Gyfeillgar i Bobl Anabl, gan sicrhau bod pobl ag anableddau corfforol a cholled synhwyraidd yn gallu byw’n fwy annibynnol, cael mynediad at wasanaethau, a chymryd rhan lawn ym mywyd y ddinas.
I gefnogi hyn, mae ein partneriaid yn Disability Friendly Cardiff yn datblygu strategaeth ar gyfer y ddinas gyfan ac yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl â phosibl er mwyn helpu i’w llunio a bod yn rhan o’r gwaith hwn. Maent am ddeall pa wasanaethau, mentrau, grwpiau, prosiectau ac ymgyrchoedd sydd eisoes ar waith yng Nghaerdydd i gefnogi pobl ag anableddau corfforol a/neu golled synhwyraidd, ynghyd â’u teuluoedd.
A fyddech cystal â llenwi’r ffurflen isod i’w helpu i ddeall pa wasanaethau sydd ar gael i gefnogi pobl o bob oed ag anableddau corfforol a/neu golled synhwyraidd ledled Caerdydd.
Offeryn Mapio Strategaeth Anabledd Corfforol a Cholled Synhwyraidd – Llenwch y ffurflen