Mae canolfan iechyd meddwl a lles i bobl ifanc 11–18 oed yn y Barri wedi ehangu, gan gynyddu nifer y bobl ifanc y gall eu cefnogi ledled y Barri a Bro Morgannwg.
Mae The Hangout, a ddatblygwyd gan Platfform mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn darparu gofod cymunedol hygyrch sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl galw heibio, sesiynau un-i-un wedi’u trefnu a grwpiau sy’n canolbwyntio ar les.
Mae’r ehangiad diweddar, a ariannwyd gan Glwstwr Gofal Sylfaenol Canol y Fro, wedi creu ystafelloedd therapiwtig ychwanegol, gofod hyblyg ar gyfer gweithgareddau lles grŵp ac ardal groeso dawelach a synhwyraidd sydd wedi’i chynllunio i leihau gorlethu a gwella hygyrchedd i bobl ifanc niwrowahanol.
Mae pobl ifanc hefyd wedi bod yn rhan o’r gwaith o lunio’r amgylchedd newydd, gan gynnwys cyfrannu at ei ddyluniad.
Mae’r datblygiad yn enghraifft gadarnhaol o bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles cynharach a hygyrch o fewn ein cymunedau.
Nid oes angen atgyfeiriad nac apwyntiad ymlaen llaw ar bobl ifanc i gael mynediad at The Hangout, a gallant alw heibio i gael cymorth.