
Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) Caerdydd a’r Fro wedi ennill Gwobr Gwaith Tîm Eithriadol yng Ngwobrau Cydnabod Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan ddathlu eu hymrwymiad rhagorol i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cleifion.
Mae’r wobr hon yn cydnabod timau sy’n dangos ymrwymiad llwyr i weithio gyda’i gilydd — boed hynny drwy wella gwasanaethau, cryfhau amgylcheddau, neu gyflwyno mentrau sy’n cael effaith gadarnhaol ar gleifion. Cafodd tîm y GAI ei enwebu am eu gwydnwch, eu hymroddiad a’u ffocws diwyro ar ddefnyddwyr gwasanaethau, hyd yn oed yn wyneb heriau sylweddol a pharhaus.
Amlygwyd yn yr enwebiad fod y tîm yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel er gwaethaf tynnu cyllid Llywodraeth Cymru yn ôl a chynnydd o 30% yn y galw o flwyddyn i flwyddyn. Roedd adborth pwerus gan ddefnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd yr enwebiad, gan adlewyrchu’r tosturi, y proffesiynoldeb a’r effaith gadarnhaol a gaiff gwaith y tîm:
“Am flynyddoedd lawer nid oeddwn wedi teimlo fy mod yn cael fy neall, ac roeddwn yn teimlo’n wahanol ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi â bywyd. Roedd y driniaeth a’r ystyriaeth a ddangoswyd gan y tîm yn eithriadol o ran fy helpu i ddeall fy nghyflwr ac, yn y pen draw, derbyn diagnosis.”
“Roedd y clinigydd yn garedig iawn, yn ystyriol ac yn broffesiynol. Gwnaeth i ni deimlo’n gyfforddus, helpodd ni i ddeall y cyflwr, a rhoi llawer o gefnogaeth a mynediad at wasanaethau.”
“Roedd fy nghlinigydd yn drylwyr ac yn dosturiol, ac nid oedd hi’n priodoli popeth i ddigwyddiadau diweddar. Rwy’n teimlo y gallaf symud ymlaen gyda gwell dealltwriaeth ohonof fy hun.”
Er gwaethaf heriau cronig o ran cyllid, capasiti a chwrdd â’r galw, mae’r tîm yn parhau i weithio’n eithriadol o dda gyda’i gilydd, gan ofalu am ei gilydd a chreu amgylchedd cynnes a chroesawgar i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gwerthfawrogi’n fawr yr hyn a gynigir, nid yn unig o ran asesiad a diagnosis, ond hefyd drwy ystod o grwpiau a chefnogaeth ôl-ddiagnostig.
Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan gynnig cymorth gwerthfawr i staff a phobl niwroamrywiol ledled y sefydliad. Trwy ddatblygu cyfleoedd hyfforddi, mae’r tîm yn helpu i wella dealltwriaeth ac arferion ar draws gwasanaethau, gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth gwbl haeddiannol i dîm rhagorol sy’n parhau i wneud gwahaniaeth bob dydd.