
Yr wythnos hon, rydym yn falch o sefyll ochr yn ochr â’n partneriaid i ddathlu Wythnos Anabledd Dysgu – gan dynnu sylw at leisiau, hawliau a phrofiadau pobl ag anableddau dysgu. Mae perthnasau, cariad a hunaniaeth yn bwysig i bawb – ac mae mynediad at wybodaeth a chymorth gonest a chynhwysol yn hanfodol.
Ar 14 Mawrth 2025, cynhaliwyd Digwyddiad Cydgynhyrchu ar Rhyw a Perthnasau gennym i sicrhau bod lleisiau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu clywed ac yn rhan annatod o ddylunio gwasanaethau.
“Nod y digwyddiad oedd rhoi’r cyfle i bobl ag anableddau dysgu leisio’u barn. Mae’n bwysig i ni gynnwys lleisiau’r bobl fydd yn defnyddio’r gwasanaethau wrth eu cynllunio.”
— Joanna Jones, Gweithiwr Cymorth Profiad Byw, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
Rydym hefyd yn tynnu sylw at ddau ddigwyddiad ardderchog sydd ar ddod, gan barhau â’r sgwrs bwysig hon:
🔹 Gwe-gynhadledd Cariad a Perthnasau – gan BILD
📅 18 Mehefin 2025
🖥️ Ymunwch yma: https://www.bild.org.uk/…/webinar-love-and…/
🔹 Rhyw, Perthnasau a Bod yn Eich Hun – gan @EventsForAll
📅 9 Gorffennaf 2025
🖱️ Archebwch docynnau am ddim yma: https://www.eventbrite.co.uk/…/sex-relationships-and…
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pawb yn gallu mynegi pwy ydyn nhw, teimlo’n ddiogel, ac adeiladu cysylltiadau ystyrlon.
#WythnosAnableddDysgu2025 #LDWeek2025 #CryfachGyda’nGilydd #CaerdyddFroBPRh #CynhwysiantYnBwysig #Cydgynhyrchu #LlaisYProfiadByw