Wythnos Gofalwyr 2026: Cydnabod Cyfraniad Hanfodol Gofalwyr Di-dâl

Mae Wythnos Gofalwyr 2026 (8–14 Mehefin) yn gyfle i gydnabod a dathlu’r cyfraniad amhrisiadwy y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud bob dydd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Caerdydd a’r Fro yn dod â Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sefydliadau’r trydydd sector a phobl â phrofiad byw ynghyd i wella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn y rhanbarth. Drwy Fwrdd Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro, mae partneriaid yn cydweithio i gydlynu cyllid, cryfhau arferion lleol a sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i ddiwallu anghenion gofalwyr.

Lansiwyd Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro yn 2023 ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i gydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed. Mae’r Siarter wedi helpu i godi ymwybyddiaeth, annog adnabod gofalwyr yn gynharach a hyrwyddo dull mwy cyson o ddarparu cymorth ar draws gwasanaethau.

Yn ystod 2024/25, cefnogodd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr bron i 2,000 o ofalwyr di-dâl, gan gynnwys 690 o ofalwyr a gafodd eu hadnabod am y tro cyntaf. Hefyd, galluogodd y Rhaglen Seibiannau Byr dros 1,200 o ofalwyr i gael mynediad at gyfleoedd seibiant hyblyg. Mae ymwybyddiaeth o ofalwyr hefyd wedi’i chryfhau drwy’r rhaglenni Cyfeillgar i Ofalwyr a Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion, gyda mwy na 280 o aelodau staff addysg wedi derbyn hyfforddiant ledled y rhanbarth.

Mae’r BPRh hefyd wedi cefnogi’r rhaglenni Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion. Ym mis Ebrill, mynychodd dros 163 o ofalwyr ifanc ddigwyddiad dathlu yn Ysgol Sant Cyres, gan roi cyfle iddynt gysylltu â chyfoedion, ymlacio a derbyn cydnabyddiaeth am y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn eu teuluoedd a’u cymunedau.

Fel rhan o Wythnos Gofalwyr 2026, mae BPRh Caerdydd a’r Fro yn lansio adnodd lles newydd i ofalwyr. Cafodd yr adnodd ei gyd-gynhyrchu gyda gofalwyr di-dâl a phartneriaid ac mae’n cynnwys canllaw ymarferol a gwefan ategol sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfeirio at gymorth i gefnogi lles gofalwyr a’u rôl ofalu.

Hoffem ddiolch i bob gofalwr di-dâl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg am bopeth rydych yn ei wneud. Mae eich cyfraniad yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a’i ddathlu.

Skip to content