Mae adroddiad gan raglen 1000 Diwrnod Cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at chwe maes blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu, gan bwysleisio y gall newidiadau bach yn y meysydd hyn fod o fudd sylweddol i deuluoedd ledled Cymru.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd creu amgylcheddau lle gall teuluoedd ffynnu—megis tai diogel, cyfleoedd gwaith teg ac incwm, cludiant hygyrch, a mannau adeiledig a naturiol sy’n gyfeillgar i’r teulu. Mae’r elfennau hyn yn sylfaen i gymdeithas sy’n galluogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
Mae ymchwil yn dangos bod buddsoddi mewn ymyriadau blynyddoedd cynnar yn cynhyrchu enillion sylweddol. Am bob punt sy’n cael ei gwario ar gefnogi teuluoedd a phlant yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, mae’r buddion economaidd hirdymor yn amrywio rhwng £1.30 a £16.80. Gan ddisgrifio’r cyfnod hwn fel “cyfle euraidd i adeiladu dyfodol tecach,” mae’r adroddiad yn tanlinellu bod beichiogrwydd a phlentyndod cynnar yn hanfodol ar gyfer llunio dyfodol iachach a hapusach. Mae cariad, gofal, maeth da, chwarae a chyfathrebu yn hanfodol i fabanod ddatblygu eu hymennydd a’u cyrff.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau sylweddol, fel y ffaith bod dros un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Heb sylfeini cryf yn ystod plentyndod cynnar, mae’n dod yn anoddach i blant ddal i fyny yn ddiweddarach, gan arwain yn aml at fwy o anghenion cymorth wrth iddynt dyfu.
Ar yr ochr gadarnhaol, gall buddsoddiadau wedi’u targedu, megis hyfforddi ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn meysydd fel datblygu lleferydd ac iaith, wella canlyniadau yn sylweddol am gost gymharol isel.
Dywedodd Amy McNaughton, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r mil o ddiwrnodau cyntaf yn gyfle rhyfeddol i sefydlu’r sylfeini ar gyfer bywyd iach a hapus. Mae’n hanfodol cefnogi teuluoedd yn y ffordd orau posibl. Mae cymdeithas sy’n gwerthfawrogi babanod a phlant yn sicrhau eu bod yn gallu tyfu i fyny yn iach, yn hapus, ac yn cyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn cynnwys creu amgylcheddau lle gall teuluoedd ffynnu a meithrin cydberthnasau cadarn rhwng babanod a’r oedolion yn eu bywydau.
“Mae nodi’r chwe maes blaenoriaeth hyn yn ein helpu ni i gyd i ddeall ein rôl wrth adeiladu cymdeithas lle mae babanod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.”
Gellir gweld yr adroddiad llawn yma: Rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)