Y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn Dathlu ei 5ed Pen-blwydd

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a’r Fro (IAS) yn dathlu pum mlynedd o gefnogi oedolion awtistig a’u gofalwyr yn ein rhanbarth. Rydym yn cynnig gwasanaethau diagnostig a chymorth ac yn gweithio gyda gwasanaethau prif ffrwd i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth weithio gyda phobl awtistig.

Fel rhan o gydnabod 5 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, gofynnwyd y canlynol i staff sy’n gweithio i IAS Caerdydd a’r Fro:

Rhannwch eich hoff adegau yn gweithio i IAS

“Fy hoff atgof oedd clywed llais rhywun rydw i wedi bod yn gweithio gyda nhw ers rhai blynyddoedd, sydd â mudandod dethol, am y tro cyntaf.”

“Un o fy hoff atgofion oedd pan aethon ni ar fws mini i’r gynhadledd awtistiaeth! Roedd yn gymaint o gamp i gynifer o’n defnyddwyr gwasanaeth i fynychu ac roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn ar y cyfan. Roedd y bws yn hollol dawel ar y ffordd yno gan fod y rhan fwyaf o bobl yn bryderus ond ar y ffordd adref, roedd pobl yn siarad â’i gilydd, yn rhannu straeon ac yn trefnu cwrdd eto, roedd yn wych.”

“Fy hoff adegau bob amser yw cadarnhau diagnosis i bobl, yn enwedig pan fyddant wedi wynebu trafferthion mewn bywyd a heb ddeall pam.”

“Fe wnes i fwynhau sefydlu’r llwybr Gwirfoddoli ar gyfer IAS a gweld y gwirfoddolwr cyntaf yn dechrau cefnogi’r Grŵp Ôl-ddiagnosis. Mae mor bwysig bod gennym lais y defnyddwyr gwasanaeth o fewn y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae hefyd yn helpu’r person awtistig i weld ei hun yn cael ei gynrychioli yn y modd hwn a gallant roi gwerth gwahanol ar y wybodaeth sy’n cael ei rhannu gyda nhw gan gyfaill sydd â phrofiad personol.”

“Mae fy hoff adegau i gyd yn deillio o hwyluso grwpiau. Mae’n wych gweld y cyfranogwyr yn rhannu profiadau ac yn uniaethu â’i gilydd ac yn teimlo’n rhan o gymuned. Doedd dim profiad o fod o amgylch oedolion awtistig eraill gan lawer ohonynt cyn cymryd rhan. Yn enwedig pan fydd cyfranogwyr yn dewis rhannu eu manylion cyswllt er mwyn cadw mewn cysylltiad! Mae’n hyfryd i’w weld.”

Sut mae gweithio gyda phobl awtistig wedi dylanwadu arnoch chi?

“Rwy’n meddwl bod y gwaith hwn wedi rhoi gwerthfawrogiad dyfnach i fi o werth gwahaniaeth mewn bodau dynol, yn yr amgylchedd gwaith a’r tu allan iddo.”

“Mae gweithio gyda phobl awtistig wedi gwneud i fi ddeall, derbyn ac annog gwahaniaeth, yn y gwaith ac yn fy mywyd personol. Mae’n fy atgoffa’n barhaus i feddwl am ffyrdd eraill o edrych ar sefyllfa ac rwy’n meddwl ein bod yn freintiedig i gael gweithio gyda grŵp mor anhygoel o bobl.”

“Rwyf wedi gweithio gyda phobl awtistig ers tua 30 mlynedd bellach, ond hoffwn feddwl bod hynny wedi fy ngwneud yn berson mwy cadarnhaol, amyneddgar a chydymdeimladol o unrhyw un sydd â gwahaniaethau.”

“Rwyf bellach yn fwy ymwybodol o niwroamrywiaeth ar draws fy nghymuned ac mae gennyf well dealltwriaeth o sut i gefnogi anghenion yr unigolion hynny mewn bywyd bob dydd. Rwyf hefyd wedi gallu addysgu fy ngŵr a’m plant ar sut y gallant gefnogi anghenion y gymuned niwrowahanol ac maent wedi mabwysiadu agwedd newydd a blaengar yn eu gweithgareddau allgyrsiol. Yn ddiweddar creodd fy merch ganllaw gweledol ar sut i osod pabell ar gyfer aelod o’r tîm awtistig ar ei Gwobr Efydd Dug Caeredin a oedd yn cael anawsterau gyda hyn. Roedd yr unigolyn hwn yn teimlo ei fod yn cael ei weld a’i gefnogi a gwnaeth wahaniaeth mawr i’w brofiad.”

“Rwy’n meddwl bod gweithio yn yr IAS wedi fy ngwneud yn berson mwy amyneddgar, gyda fi fy hun ac eraill. Mae hyn oherwydd fy mod wedi gallu croesawu’r gwahaniaethau unigol o fewn y gymuned a gweithredu fel eiriolwr dros y rhai sydd angen cymorth.”

Neges gan ein harweinydd clinigol

“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn ac yn ddiolchgar i fod yn Arweinydd Clinigol yn IAS Caerdydd a’r Fro. Mae’n dîm gwych i fod yn rhan ohono; mae’r staff yn weithgar a chefnogol, ac maent yn gadarnhaol am symud ymlaen a datblygu’r gwasanaeth – rydym wedi dod yn bell mewn 5 mlynedd! Mae’r tîm yn ymroddedig ac yn angerddol am weithio ochr yn ochr ag oedolion awtistig a gofalwyr i gyflawni eu nodau, a chefnogi ac annog gwasanaethau eraill i ddiwallu anghenion pobl awtistig yn well. Rwyf wedi gweithio gyda phobl awtistig ers 27 mlynedd a bob dydd rwy’n teimlo’n ddiolchgar i’r rhai sy’n rhannu eu straeon gyda fi ac sy’n fy nysgu am ffyrdd gwahanol, sy’n aml yn well, o weld y byd. Rwy’n dysgu gan bob person rwy’n ei gefnogi ac yn defnyddio’r hyn rydw i’n ei ddysgu i gefnogi eraill. Rwy’n gobeithio y gallwn barhau i ddatblygu’r gwasanaeth, ac rydym bob amser yn obeithiol am gyllid ychwanegol fel y gallwn ddarparu mynediad cyflymach a gwasanaeth gwell i’n cymuned.”

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a’r Fro (IAS) yn wasanaeth awtistiaeth arbenigol amlasiantaeth gyda staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Bro Morgannwg. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector. Sefydlwyd y gwasanaeth yn dilyn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig ledled Cymru.

Gwnaethom ofyn i’r bobl a oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth beth oedd eu barn. Dyma eu sylwadau: 

 “Teimlais eu bod yn gwrando arnaf, eu bod yn fy neall i. Roedd y broses gyfan wedi’i hesbonio’n glir ac yn cael ei chynnal mewn ffordd gyfeillgar. Profiadol a llawn dealltwriaeth.” 

“Roedd yn syml, yn enwedig gyda’r hunangyfeirio. Mae’r aros yn fyrrach nag mewn rhai ardaloedd o’r DU. Roedd yr ohebiaeth yn syml ac yn ddefnyddiol iawn. A doedd heddiw ddim yn frawychus.” 

“Roedd yn ddefnyddiol iawn – mae’r staff yn gyfeillgar. Roedd yr ymateb yn effeithlon iawn ac roedd yr holl wybodaeth yn ddefnyddiol iawn ac yn hawdd ei deall.” 

“Roedd X yn hynod bryderus am y ddau heddiw ac am ganlyniad yr asesiad. Gwnaeth y staff dawelu meddwl X ar unwaith. Roedd hi’n garedig, yn esbonio popeth yn dda ac yn anfeirniadol. Roedd cael cynnig unrhyw gyngor/apwyntiadau dilynol yn syndod ac i’w groesawu’n fawr.” 

“Mae’r bobl yn neis.” 

“Pobl gymwynasgar iawn, gyda llawer o wybodaeth glir yn cael ei darparu ymlaen llaw.” 

“Roedd angen rhywfaint o help arnaf i wneud cais am Gymorth i Fyfyrwyr Anabl ac roedd y tîm yn wych yn fy helpu i gwblhau’r ffurflenni yr oedd angen eu llenwi. Rwy’n ddiolchgar iawn.” 

“Mae’r gwasanaeth cyfan wedi rhoi llawer o gymorth i mi ers i mi fynd ar y rhestr aros, ac wedi ymateb pan ofynnais gwestiynau iddynt. Mae aseswyr wedi bod yn hyfryd ac yn barod iawn i helpu hefyd.” 

“Cymwynasgar iawn ac yn gwneud ichi deimlo’n gyfforddus.” 

“Roedd y gwasanaeth yn ddefnyddiol iawn ac yn gefnogol trwy gydol fy nghynllun triniaeth. Fe wnaeth y driniaeth fy helpu i gyflawni’r nodau penodol yr oeddwn am eu cyflawni h.y. magu pwysau.” 

“Amser hir i aros i gyrraedd yma (1 flwyddyn) ond roedd y swyddog cymorth awtistiaeth yn wych ac yn gefnogol iawn, nid oeddwn byth yn teimlo dan bwysau nac fel petawn yn cael fy marnu. Roeddwn i mor bryderus, ond roeddwn yn teimlo’n ddiogel ac fel petawn yn cael fy ngwerthfawrogi’r o’r dechrau i’r diwedd. Diolch o galon.” Rwy’n gwerthfawrogi eich gwasanaeth.” 

“Roedd pawb yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Roedd y broses yn glir. Roedd yr adeilad yn braf. Gwnaeth y staff i mi deimlo’n ddiogel i fod yn fi fy hun.” 

“Staff cyfeillgar iawn a oedd yn llawn dealltwriaeth, yn dawel ac yn galonogol. Roeddwn i’n deall y rhesymau dros ddull gweithredu’r tîm a gwnaethant reoli fy nisgwyliadau’n effeithiol. 

“Roedd y ddau ymarferydd yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd mynd atynt – roedd rhai o’r ymarferion yn lletchwith ond gallaf weld pam fod angen eu gwneud. Credais fod y ddau ymarferydd yn wybodus ac roedd yn rhyddhad gwybod yr ateb.” 

“Gwnaed i fy merch a minnau deimlo’n gyfforddus ar ôl cyrraedd. Roedd y cwestiynau’n archwiliadol ac fe’u holwyd yn y fath fodd fel bod yr ateb yn dod yn naturiol ac yn onest. Teimlais dosturi a dealltwriaeth drwyddi draw.” 

“Roedd y ddau aseswr yn gyfeillgar ac yn gwrando arnaf. Cefais ganlyniad da ac rwy’n meddwl y byddwn wedi cael beth bynnag fyddai’r diagnosis oherwydd cefais fy nghyfeirio at wasanaeth arall.” 

“Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy nilysu a bod rhywun yn gwrando arna i. Roedd y clinigwyr yn amyneddgar, yn garedig ac yn llawn dealltwriaeth. Roedd digon o amser i brosesu pethau. Roeddech chi’n wych!” 

“Perthynas gadarnhaol iawn gyda’r gwasanaeth o’r cyswllt cyntaf. Gwnaeth y tîm fan diogel i’m hasesiad, a gwnaethant ddangos diddordeb ynof. Roeddwn i’n teimlo bod rhywun yn gwrando arna i a’m bod yn cael fy nghydnabod. Mae’n beth anodd ei wneud ond roedd y gwasanaeth wedi ei wneud mor gyfforddus ag y gallai fod. Diolch!” 

“Gwasanaethau rhagorol, wedi’u hasesu’n drylwyr, teimlais fod rhywun yn gwrando arna i, roedd y staff yn gyfeillgar ac yn llawn dealltwriaeth, ac roedd y cyfleusterau i’r Anabl yn wych hefyd. Rwy’n teimlo o’r diwedd bod esboniad dros fy mywyd a’m harferion.” 

“Roeddwn i’n teimlo bod rhywun yn gwrando arna i, roedd y broses yn teimlo’n drylwyr iawn a heb ei rhuthro o gwbl. Teimlais fod pobl yn gwrando ar fy safbwyntiau a’u bod yn cael eu hadlewyrchu fel prif ffynhonnell wybodaeth. Teimlais fod pobl yn credu ynof.  Roedd adrodd stori’r broga yn bleserus iawn.” 

“Roedd y broses asesu’n gyfeillgar a defnyddiol iawn, doedd neb/dim byd yn gwneud i mi deimlo’n orbryderus/nerfus/anghyfforddus. Cymharol syml/clir – o ran disgwyliadau, cyfathrebu ac ati.” 

“Roeddwn i’n teimlo bod rhywun yn gwrando arna i. Nawr mae gen i fwy o eglurder ynghylch fy ngwahaniaethau. Pam dwi’n cael trafferth ac ati.” 

“Caredig iawn a dilys. Wedi gwneud profiad gwahanol a llawn straen yn hawdd ymdopi ag ef. Diagnosis cyflym.” 

“Roedd y bobl a welais heddiw yn gyfeillgar ac wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol.” 

“Cyfleoedd gwych o ran cyngor a chefnogaeth.” 

“Roedd yn ddefnyddiol iawn ac roeddwn yn falch bod y gwasanaeth o fudd a’i fod yn hawdd cysylltu ag ef.” 

“Croesawgar iawn ac yn llawn dealltwriaeth, caredig iawn o ran eu hymyriadau.” 

“Amgylchedd cyfforddus iawn. Staff cyfeillgar.” 

Skip to content