
Mae Gwella Cymru (rhan o Weithrediaeth GIG Cymru) wedi lansio ymgyrch yr wythnos hon i hyrwyddo’r Proffil Iechyd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mae’r Proffil Iechyd yn ffurflen sy’n cael ei llenwi gan bobl ag anabledd dysgu i’w helpu i gyfathrebu eu hanghenion gyda gwasanaethau a staff gofal. Mae Gwella Cymru yn gofyn i sefydliadau ac unigolion helpu ni i hyrwyddo rôl ac arwyddocâd Proffiliau Iechyd i’w cymunedau.
I helpu gyda hyn, mae ystod o adnoddau wedi’u datblygu ar gyfer Gwasanaethau GIG Cymru, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol, darparwyr gofal yn y sector preifat, a sefydliadau’r trydydd sector.