Pobl ag anableddau dysgu

Ein gweledigaeth ar gyfer Caerdydd a’r Fro – Hyrwyddo annibyniaeth a gwella bywydau

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r strategaeth hon yn disgrifio ein gweledigaeth ar y cyd, yr egwyddorion craidd sydd yn hanfodol yn ein barn i ddylunio a darparu gwasanaeth, ynghyd â’r prif broblemau y dylid mynd i’r afael â nhw yn y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth sy’n effeithiol, diogel ac o ansawdd da. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod digon o gapasiti ac ystod briodol o ddarpariaeth i ddiwallu angen lleol.

Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes Stacey a Joanna, dau berson ysbrydoledig ag anabledd dysgu, a gafodd eu cyflogi gan y gwasanaethau anableddau dysgu. Mae’n amlygu sut y gall gwasanaethau ac unigolion gael budd mawr o gyflogi pobl â phrofiad personol.

Diben – Pam cael Strategaeth?

Diben ein strategaeth yw disgrifio sut bydd Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’i gilydd i ymateb i anghenion a dyheadau ein hoedolion ag anableddau dysgu mewn cyd-destun deddfwriaethol a chanllawiau cenedlaethol, cynlluniau lleol ehangach a’r adnoddau sydd ar gael.

Ar lefel leol, bydd ein strategaeth leol yn llywio’r gwasanaethau y bydd y tri sefydliad ar y cyd neu ar wahân yn eu comisiynu dros y pum mlynedd nesaf.

Ein gweledigaeth ni yw sicrhau ansawdd bywyd da i bobl ag anableddau dysgu a’u cefnogi i fyw yn y ffordd y maent yn dymuno; gan fyw yn lleol lle maent yn ‘teimlo’n dda ac yn iach’, lle maent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau ac mae mynediad cyfartal at gymorth priodol ar gael iddynt sy’n sicrhau annibyniaeth, dewis a rheolaeth.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Astudiaethau Achos

Skip to content