Mae gan aelod mwyaf newydd Cyngor Caerdydd gyfoeth o wybodaeth ar flaen ei fysedd ac mae e ar ddyletswydd 24 awr y dydd, yn barod i helpu pobl mwyaf agored i niwed y ddinas, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae Sara, neu AskSARA fel y’i gelwir, yn wefan newydd sydd wedi’i chynllunio i ddarparu offeryn hunangymorth ar-lein un stop ar gyfer dinasyddion, gofalwyr a darparwyr gofal ac mae’n cynnig gwybodaeth drwy gyfres syml o gwestiynau sydd wedi’u cynllunio i deilwra atebion i anghenion penodol unigolion.
I ddefnyddio’r offeryn, rydych chi’n mewngofnodi i wefan AskSARA, yn dewis maes sy’n peri pryder ac yna’n cael eich tywys drwy’r materion a’r opsiynau sydd ar gael nes bod SARA wedi llunio adroddiad personol y gallwch ei ddefnyddio i gael cyngor ac arweiniad.
Er enghraifft, os ydych yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r ystafell ymolchi, gofynnir cwestiynau i chi gan gynnwys:
- A yw mynediad yn broblem?
- Allwch chi alw am help os oes angen?
- A yw llawr yr ystafell ymolchi yn aml yn mynd yn llithrig?
- A yw’r dŵr yn mynd yn rhy boeth?
Ar ôl cwblhau’r arolwg ar-lein, caiff adroddiad personol ei lunio ar unwaith sy’n asesu eich anghenion, yn cynnig atebion i unrhyw broblemau a nodwyd, ac yn cynnig dyfeisiau a all helpu i gefnogi annibyniaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dweud, pan gynigir yr offeryn AskSARA fel gwasanaeth brysbennu ‘drws ffrynt’ gall helpu preswylwyr i ddod o hyd i atebion drostynt eu hunain.
“Rydym yn disgwyl i SARA ddod yn offeryn poblogaidd iawn i’n trigolion ac i’r rhai sy’n ymwneud â’u gofal. Gellir defnyddio cyfrifiaduron llechen, ffonau neu liniaduron yng nghartref y defnyddiwr neu eu cyflenwi i weithwyr i gael mynediad i’r gwasanaeth a gellir ei ddefnyddio i gefnogi sgyrsiau da am fyw’n annibynnol.”
Mae AskSARA, a fydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn mynd yn fyw ar 30 Mai am 9am a gellir dod o hyd iddo yn Cyngor Caerdydd -AskSARA (livingmadeeasy.org.uk)