Mae’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg eisiau darganfod beth sy’n digwydd gydag archwiliadau iechyd.
Mae archwiliadau iechyd yn helpu’ch meddyg i ddarganfod a oes gan bobl ag anableddau dysgu unrhyw broblemau iechyd y mae angen help yn eu cylch.
Mae’n ffordd dda o helpu pobl i gadw’n iach.
Mae meddygon yn cael eu talu i gynnal archwiliadau iechyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ond rydym yn gwybod bod llawer o bobl nad ydynt wedi cael archwiliad iechyd o hyd.
Rydym wedi ysgrifennu’r cwestiynau hyn i’n helpu i ddarganfod:
- am y pethau da sy’n digwydd
- a oes angen i bethau newid
- pa gymorth sydd ei angen ar feddygon teulu a staff fel y gall pobl ag anableddau dysgu ddefnyddio gwasanaethau’n well. Gelwir y newidiadau hyn yn addasiadau rhesymol.
Mae 5 cwestiwn. Mae lle o dan bob cwestiwn os ydych chi am ysgrifennu amdano..
Mae’r arolwg yn cau ar 23 Medi 2022