Cymorth i fudiadau trydydd sector 

Cyllido Cymru 

Mae Cyllido Cymru yn blatfform chwilio am gyllid a grëwyd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru lle gallwch ddod o hyd i gyllid ar gyfer eich elusen, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol gan ddefnyddio peiriant chwilio ar-lein am ddim. 

Mae eu cronfa ddata’n cynnwys cyfleoedd cyllid grant a benthyciadau o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. 

Cefnogaeth leol 

Mae’r rhestr o grantiau sydd ar gael bob amser yn newid felly rydym yn argymell cysylltu â Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) a all gynnig cyngor a chymorth i grwpiau trydydd sector a chymunedol sy’n cefnogi pobl yn eu hardal. 

Caerdydd

Gall Swyddogion Datblygu’r Trydydd Sector C3SC gefnogi sefydliadau gyda chwiliadau am gyllid, cynorthwyo gyda cheisiadau am gyllid, strategaethau codi arian ac unrhyw gyngor neu arweiniad arall.  

Maent hefyd wedi cynhyrchu papur briffio defnyddiol ar grantiau a chyllid sydd ar gael. 

Bro Morgannwg 

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Cyllid GVS yn agored i holl aelodau GVS a darpar aelodau, mudiadau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi’u lleoli ym Mro Morgannwg, neu sy’n gwasanaethu Bro Morgannwg. Ei ddiben yw darparu gwybodaeth am gyllid, cyngor a chymorth wedi’i deilwra i anghenion penodol eich grŵp. 

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content