Cymorth i unigolion 

Mae costau byw sy’n cynyddu’n gyflym yn bryder gwirioneddol i lawer o bobl yn ein rhanbarth. Mae ein partneriaid yn gweithio i’ch helpu i gael gafael ar unrhyw gymorth sydd ar gael, a byddem wir yn argymell cysylltu â nhw os ydych chi’n poeni gan y byddant yn gallu darparu’r cyngor gorau am bwy i gysylltu â nhw yn seiliedig ar eich amgylchiadau. 

Dylai trigolion Caerdydd gysylltu â C3SC: 

Dylai trigolion Bro Morgannwg gysylltu â GVS: 

Dolenni defnyddiol eraill

Porth Gofalwyr Caerdydd a’r Fro

Mae Porth Gofalwyr Caerdydd a’r Fro yn deall y gall bod yn ofalwr di-dâl fod yn flinedig a gall fod yn anodd dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gall eu Gweithwyr Lles eich helpu i gael mynediad at wasanaethau lleol a rhoi cyngor ar y cymorth a’r grantiau diweddaraf.

 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyngor ar gadw’n iach yn ystod yr argyfwng costau byw, gan gynnwys diogelu eich iechyd meddwl, bwyta ar gyllideb ac aros yn gorfforol ffit a chynnes. 

Cyngor Caerdydd 

Mae gan Gyngor Caerdydd wybodaeth am amrywiaeth o gefnogaeth leol sydd ar gael. 

Cyngor Bro Morgannwg 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg wybodaeth am gymorth a chefnogaeth os ydych chi’n cael trafferth talu’ch biliau oherwydd costau byw cynyddol. 

Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro 

Mae Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn cynnig cyfrifon cynilo diogel a benthyciadau fforddiadwy i unrhyw un sy’n byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg neu’n gweithio unrhyw le yng Nghymru.

MoneyHelper 

Mae gan MoneyHelper ystod o ddolenni defnyddiol yn ogystal â gwybodaeth a chyngor clir a diduedd i egluro beth sydd angen i chi ei wneud a sut y gallwch ei wneud. Mae ganddynt wybodaeth am bob agwedd ar gyllid gan gynnwys budd-daliadau, arian bob dydd, teulu a gofal, cartrefi, trafferthion ariannol, pensiynau ac ymddeoliad, cynilion a gwaith. 

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content