Gweithgareddau am ddim a chymorth i ofalwyr di-dâl ac ifanc
Gall gofalu am y rhai rydych chi’n eu caru fod y peth mwyaf naturiol yn y byd, ond nid yw hynny’n golygu nad oes angen cefnogaeth arnoch chi.
Os ydych chi’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu, efallai eich bod yn ofalwr di-dâl neu’n ofalwr ifanc.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn ymrwymedig i’ch cefnogi chi.
Rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael i ofalwyr gael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau pleserus a chefnogaeth, o egwyl fer i daith ar gwch hwylio. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth gyswllt isod.
Mae grantiau’n brin, felly rhowch wybod i’r sefydliadau y mae gennych ddiddordeb ynddynt cyn gynted â phosibl. I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r sefydliadau a restrir yn uniongyrchol. I gael gwybod mwy, ewch i: Gofalwyr Di-dâl: Cyllid ar gyfer gweithgareddau – CAVRPB