Gofalwyr Di-dâl: Cyllid ar gyfer gweithgareddau
Gweithgareddau am ddim a chymorth i ofalwyr di-dâl ac ifanc
Gall gofalu am y rhai rydych chi’n eu caru fod y peth mwyaf naturiol yn y byd, ond nid yw hynny’n golygu nad oes angen cefnogaeth arnoch chi.
Os ydych yn darparu gofal i ffrind neu aelod o’r teulu, efallai eich bod yn ofalwr di-dâl neu’n ofalwr ifanc.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi.
Gall gofalu am y rhai rydych chi’n eu caru fod y peth mwyaf naturiol yn y byd, ond nid yw hynny’n golygu nad oes angen cefnogaeth arnoch chi.
Os ydych chi’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu, efallai eich bod yn ofalwr di-dâl neu’n ofalwr ifanc.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn ymrwymedig i’ch cefnogi chi.
Rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael i ofalwyr gael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau pleserus a chefnogaeth, o egwyl fer i daith ar gwch hwylio. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth gyswllt isod.
Mae grantiau’n brin, felly rhowch wybod i’r sefydliadau y mae gennych ddiddordeb ynddynt cyn gynted â phosibl. I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r sefydliadau a restrir yn uniongyrchol.
Os oes angen cymorth neu gyngor arall arnoch, cysylltwch â:
Gofalwyr Ifanc
Gofalwyr Ifanc y Fro [email protected]
Gofalwyr Ifanc Caerdydd [email protected] neu ffoniwch 02920 464463
Gofalwyr Di-dâl
The Care Collective
Darganfyddwch beth sy’n cael ei gynnig
[email protected] neu ffoniwch 02921 921024
Beth sy’n cael ei gynnig
Forget-me-not Chorus
Ydych chi’n chwilio am grŵp i’ch cefnogi wrth i chi wynebu heriau dementia? Ymunwch â’n cymuned.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 02922 362064
Neuadd Llanrhymni
Gwyliau byr creadigol, wedi’u cynllunio ar eich cyfer chi.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 02920 001441
Headway Caerdydd a De-ddwyrain Cymru
Cyfle i gyfarfod bob mis, teithiau a phrydau bwyd allan i deuluoedd sy’n cefnogi pobl ag anaf i’r ymennydd sy’n byw yn Ne Cymru gan roi cyfle i gwrdd ag eraill, cael seibiant o’r drefn bob dydd ac amser iddyn nhw eu hunain.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 20577707
Care Collective
Grantiau i helpu gofalwyr di-dâl i gael seibiant. Mae amrywiaeth o grantiau ar gael ar ein gwefan www.thecarecollective.wales.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 02921 921024
Celtic Capability
Ydych chi eisiau profiad cyffrous newydd? Mae Celtic Capability yn cynnig sesiynau hwylio gyda hyfforddiant arbenigol i ofalwyr a’r cyfle i ymuno â’r gymuned hwylio ehangach.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 07907 197 957
YMCA Caerdydd
Amrywiaeth o opsiynau sy’n addas i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd, gan gynnwys seibiannau i’r teulu a gweithgareddau hwyliog eraill.
Cysylltwch â:
Gofalwyr Ifanc y Fro [email protected]
Gofalwyr Ifanc Caerdydd [email protected]
Ffoniwch 02920 464463
Prosiect Cymunedol Lioness
Gall Prosiectau Cymunedol Lioness eich cefnogi mewn sawl ffordd yn eich cymuned leol, gan gynnwys eich cynorthwyo i gymryd rhan neu ariannu unrhyw un o’r canlynol:
- Gwyliau penwythnos neu daith oddi cartref (e.e. ymweld ag amgueddfa)
- Pecyn adloniant fel tanysgrifiadau teledu, sinema a ffrydio (e.e. Netflix, Prime Video, NOW TV)
- Tocynnau cyngerdd/gŵyl/theatr/gêm/digwyddiad
- Aelodaeth canolfannau hamdden, offer chwaraeon personol, diwrnodau Sba (e.e. campfa, nofio, clybiau chwaraeon)
- Gwersi gyrru, cardiau rheilffordd, tocynnau bws (e.e, cerdyn iff, cardiau teithio)
- Hyfforddiant a chyrsiau (e.e. Cymorth Cyntaf, Codi a Chario)
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 07956 407217.
Racerunning Dragons
Cyfle i blant a phobl ifanc ag anableddau roi cynnig ar rasio gan ddefnyddio beic gyda ffrâm tair olwyn, cyfrwy, offer cynnal y corff ac, yn fwyaf arbennig, dim pedalau.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 07803770962.
Welcome Spaces
Dewch i gwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau cymunedol mewn lle cyfforddus i ofalwyr sy’n agos at eich cartref.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 07961 653274
Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro
Mae’r Ffederasiwn yn cael ei redeg gan rieni, ar gyfer rhieni, ac mae’n cynnig ystod eang o weithgareddau cymdeithasol i deuluoedd sy’n gofalu am berthynas ag anabledd dysgu.
Cysylltwch ag [email protected] neu ffoniwch 029 2056 5917
With Music in Mind
Mae With Music in Mind yn CIC arobryn sy’n hyrwyddo’r defnydd o gerddoriaeth a’r celfyddydau i wella lles. Byddant yn cynnal sesiynau gweithgareddau yng Ngorllewin y Fro ar gyfer gofalwyr a’ch anwylyd.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 07500 776295.
Canolfan Gymunedol Butetown
Gwnewch hobi neu weithgaredd hamdden tra bod eich anwylyd yn derbyn gofal yn y ganolfan ac yn cael pryd maethlon. Gallwch ddewis cymryd seibiant ar eich pen eich hun neu gyda’ch gilydd.
Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2048 7658
Clwb Gofalwyr yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER
Mae’r Clwb Gofalwyr yn grŵp cymorth cymheiriaid ar gyfer gofalwyr di-dâl yn ardal Trelái/Caerau, lle gallwch sgwrsio ag eraill sydd ar daith ofalu debyg, heb farnu, a gyda llawer o empathi. Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER (Heol yr Eglwys, Caerau). Byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau seibiant byr dros y misoedd nesaf, gan gynnwys diwrnod sba, bowlio a phryd allan.
Cysylltwch ag ACE ar 02920 003132 a gofynnwch am Rachel neu aelod o’r tîm lles.
Ein Prif Flaenoriaethau
DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.
BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.