Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro

Mae tua 1 o bob 10 ohonom sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind.

Mae’r Siarter hon yn addo ymrwymiad partneriaid ar draws y rhanbarth gan gynnwys y GIG, awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau’r trydydd sector ac yn amlinellu sut y byddwn yn eich cefnogi os ydych yn gofalu am rywun.

Ydych chi’n Ofalwr Di-dâl?

Mae Porth Gofalwyr Caerdydd a’r Fro yn darparu gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl. Ein nod yw gwella ansawdd bywyd gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal yn ein hardal leol, gan helpu gofalwyr i wneud y gorau o’u bywyd ochr yn ochr â’u rôl gofalu a chynnal eu hannibyniaeth.

Gofalwyr Ifanc

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content