Archwiliadau Iechyd y GIG

Mae’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg eisiau darganfod beth sy’n digwydd gydag archwiliadau iechyd.

Mae archwiliadau iechyd yn helpu’ch meddyg i ddarganfod a oes gan bobl ag anableddau dysgu unrhyw broblemau iechyd y mae angen help yn eu cylch.

Mae’n ffordd dda o helpu pobl i gadw’n iach.

Mae meddygon yn cael eu talu i gynnal archwiliadau iechyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ond rydym yn gwybod bod llawer o bobl nad ydynt wedi cael archwiliad iechyd o hyd. 

Rydym wedi ysgrifennu’r cwestiynau hyn i’n helpu i ddarganfod:

  • am y pethau da sy’n digwydd
  • a oes angen i bethau newid
  • pa gymorth sydd ei angen ar feddygon teulu a staff fel y gall pobl ag anableddau dysgu ddefnyddio gwasanaethau’n well. Gelwir y newidiadau hyn yn addasiadau rhesymol. 

Mae 5 cwestiwn. Mae lle o dan bob cwestiwn os ydych chi am ysgrifennu amdano..

Mae’r arolwg yn cau ar 23 Medi 2022

Skip to content