@Gartref– yn cyflymu
uchelgeisiau Cymru Iachach o
ran datblygu gofal integredig
wedi’i seilio’n lleol
@Gartref
Mae’r rhanbarth wedi cyfuno’r hyn a ddysgwyd o’r Gronfa Gofal Integredig (ICF) a’r Gronfa Trawsnewid er mwyn datblygu rhaglen waith graddfa fawr i ail-lunio darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth.
Mae rhaglen @Gartref yn cyfuno nifer o brosiectau a gyllidwyd drwy’r GronfaGofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid, gan gynnwys:
- Clystyrau amlddisgyblaeth lle gall pobl gyrchu ystod o wasanaethau’n seiliedig ar flaenoriaethau allweddol yr ardal leol;
- Gwasanaeth rhyddhau integredig yr ICF, yn gweithio gyda phrosiect Get Me Home y Gronfa Trawsnewid er mwyn helpu i gydgysylltu trefniadau rhyddhau o’r ysbyty drwy weithio ar draws ffiniau traddodiadol;
- Gwneud i wasanaethau gynnig mynediad rhwyddach drwy un man cyswllt – Gwasanaeth Byw’n Annibynnol Caerdydd ac Un Pwynt Mynediad y Fro.
Datblygu clwstwr y Tîm Amlddisgyblaethol
Mae’r gwaith trawsnewidiol o amgylch Clwstwr De-orllewin Caerdydd wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran gofal cleifion gyda llai o dderbyniadau heb eu cynllunio i’r ysbyty o gymharu â chlystyrau eraill.
Roedd y prosiect datblygu clwstwr yn Ne- orllewin Caerdydd yn canolbwyntio ar 4 maes datblygu allweddol:
- Cyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol yn y gymuned ar gyfer cefnogi ein cleifion mwyaf agored i niwed. Trafododd y Tîm Amlddisgyblaethol 294 o gleifion unigryw yn 2021/22.
- Canolfan cydlynu lles a rhyddhau cleifion – i gefnogi cleifion pan fyddant yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn dilyn derbyniadau brys. Cysylltodd y ganolfan â 6152 o gleifion yn 2021/22.
- Gwasanaeth datblygu cymunedol i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o weithgareddau datblygu cymunedol. Hefyd, rhwydwaith o gysylltwyr lles a gweithwyr rhagnodi cymdeithasol i gefnogi ein cleifion i wella eu lles. Cafwyd 730 o atgyfeiriadau drwy blatfform rhagnodi cymdeithasol y clwstwr yn 2021/22.
- Ffocws ar gynllunio gofal ymlaen llaw i gefnogi cleifion i wneud a rhannu penderfyniadau am eu man gofal o ddewis. Cynhaliwyd 419 o drafodaethau cynllunio gofal ymlaen llaw gyda chleifion yn 2021/22.