Mae’r Grŵp Partneriaeth Anabledd Dysgu yn chwilio am Gadeirydd newydd


Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau:

· Arwain

· Trefnu

· Gwneud gwahaniaeth

Dewch draw i gyfarfod nesaf y Grŵp Partneriaeth Anabledd Dysgu i weld a hoffech wneud cais i fod yn Gadeirydd nesaf i ni.

Cyfarfod nesaf: 8 Mehefin 2.30 – 4.00pm yn V21 Sbectrwm, Heol Bwlch, Caerdydd, CF5 3EF

Cewch eich cefnogi’n llawn yn y rôl. Bydd yn eich helpu i ddangos bod gennych ystod eang o sgiliau a hyfforddiant.

Mae’r Grŵp Partneriaeth Anabledd Dysgu yn cynnwys cynghorau lleol Caerdydd a’r Fro, sefydliadau iechyd, gwirfoddol a phobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr.

Mae’n darparu lle i ddiweddaru ei gilydd ar wasanaethau yn ogystal â bod yn llais i ddinasyddion i helpu i lunio gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.

Eich rôl fel cadeirydd fydd sicrhau bod llais pobl yn cael ei glywed a bod gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r Bwrdd Partneriaeth Anabledd Dysgu.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â [email protected]

Skip to content