Gwneud gwahaniaeth: Women Connect First

Bu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yn cydweithio i ddarparu grantiau bach yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl Caerdydd a’r Fro.

Derbyniodd Women Connect First arian ar gyfer cyfrifiaduron ac offer i helpu eu haelodau i gadw mewn cysylltiad a gwneud gweithgareddau yn ystod y pandemig. Maent yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Mae’r ffilm fer hon yn dangos yr effaith y maent wedi’i chael ar fywydau pobl.

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a ddarparodd arian gan y Gronfa Gofal Integredig. Mae hyn yn canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, gofal integredig a gwasanaethau cymorth a darparu modelau darparu amgen.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content