Niwrowahaniaeth
Diweddariad ynghylch Niwrowahaniaeth a’r Cod Ymarfer Awtistiaeth
Cod Ymarfer Awtistiaeth
Cyhoeddwyd Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2021. Nod hyn oedd rhoi eglurder ynghylch hawliau cyfreithiol oedolion a phlant awtistig a’r hyn y dylai pobl ei ddisgwyl gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio i wneud y canlynol:
- Datblygu grŵp strategol lleol i oruchwylio a monitro gweithrediad y cod ymarfer
- Cynnal asesiad sylfaenol o Argymhellion y Cod gyda rhanddeiliaid
- Creu cynllun gweithredu i fonitro gweithrediad y Cod
- Penodi Hyrwyddwr Awtistiaeth o fewn ein RPB sef Keith Ingram, Swyddog Arweiniol Awtistiaeth, IAS
- Sefydlu is-grŵp Asesu Gofal
Pedwar maes allweddol y Cod Ymarfer:
- Asesiad a Diagnosis Awtistiaeth
- Mynediad at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Codi Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant Awtistiaeth
- Gwasanaethau Cynllunio a Monitro ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Diweddariad ynghylch niwrowahaniaeth (ND)
Cydnabu Llywodraeth Cymru y pwysau yr oedd ar wasanaethau ND, a gafodd eu dwysáu o ganlyniad i’r pandemig. Adolygwyd y galw am eu gwasanaethau a’u capasiti i ddiwallu anghenion pobl.
Rhyddhaodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ddatganiad ysgrifenedig o’r enw Gwelliannau mewn Gwasanaethau Cyflyrau Niwroddatblygiadol sy’n gosod tri nod ar gyfer gwasanaethau ND:
Tri nod allweddol i arwain buddsoddiad mewn gwasanaethau ND a’r system ehangach, a’u diwygio:
- Mynediad cyflymach at gymorth a chefnogaeth gynnar;
- Mynediad cyflymach at asesiad ND arbenigol ar gyfer y rhai a fyddai’n elwa ohono;
- Mynediad teg at wasanaethau a chymorth.
Gosododd y Gweinidog dair egwyddor a ddylai fod yn sail i wasanaethau ND:
- Dull systemau cyfan gyda chyfranogiad ystod o sectorau, a dull gydol oes (o’r crud i’r bedd);
- Symud, mor bell â phosibl, tuag at ddull sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, a’i arwain gan anghenion (yn hytrach na’i arwain gan ddiagnosis), sy’n hygyrch ac sy’n gallu ymdopi’n well ag ystod eang o brofiadau pobl;
- Dylai diwygio gwasanaethau ND a’r system ehangach gael ei lywio gan dystiolaeth, ei weithredu ar y cyd, a bod yn destun monitro a gwerthuso.
Argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad:
- Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ND mewn gwasanaethau
- Estyn allan i ymgysylltu â phobl sy’n cynrychioli’r boblogaeth amrywiol yn ein rhanbarth
- Sicrhau ei bod yn hawdd cael mynediad at gymorth
- Dylid cael cynnig cymorth cenedlaethol clir, fel y gall pobl gael mynediad at lefel gyson o gymorth ble bynnag y maent yn byw
- Dylai gwasanaethau gydweithio’n agosach
Hyfforddiant Awtistiaeth
Mae gan yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol fynediad at hyfforddiant diddorol ac ymarferol Awtistiaeth Cymru, sy’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl i ddarparu cefnogaeth effeithiol i bobl awtistig.
Modiwl 1: Deall Awtistiaeth
Cyflwyniad i beth yw awtistiaeth, sut mae’n effeithio ar fywyd pobl awtistig o ddydd i ddydd a chyngor i’ch helpu i gefnogi pobl ag awtistiaeth.
Modiwl 2: Cyfathrebu Effeithiol
Gwahaniaethau mewn arddulliau cyfathrebu, sut i gyfathrebu’n effeithiol a’r effaith y gall ffactorau amgylcheddol eu cael ar gyfathrebu.
Argymhellir y modiwlau hyn i’r holl staff. Dylai staff y BIP chwilio am 000 Autism Awareness ar ESR i gwblhau’r hyfforddiant.
Ein Prif Flaenoriaethau
DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.
BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.