Diffiniadau o Ganlyniadau
Mwy yn byw’n dda yn eu cartref a’u cymuned eu hunain
Mae’r Canlyniad Lefel System hwn yn ymwneud â deall a sicrhau bod dinasyddion yn gallu treulio cymaint o’u bywydau’n dda ac yn y cartref, neu o leiaf yn byw yn y gymuned yn hytrach mewn sefydliadau, ac mor annibynnol â phosibl. Mae’n ymdrin ag iechyd cyffredinol, diogelwch a pherthynas gadarnhaol â theulu a ffrindiau. Mae pobl yn iach, yn cadw’n iach, yn gwneud dewisiadau cadarnhaol yn hawdd, ac yn parhau i fod mewn cysylltiad. Mae hefyd yn ymwneud â faint o’r dinasyddion sy’n byw yn eu cartref arferol ac yn eu cymuned arferol. Mae’n cynnwys, er enghraifft, ‘osgoi derbyn’, cefnogi pobl i ennill neu adennill sgiliau byw bob dydd a gollir o afiechyd a hefyd, pan ddarperir cymorth, y gall fod yn lleol i’r dinesydd gymaint â phosibl. Yn ystod eu 1000 diwrnod diwethaf, mae gan bobl y diwedd gorau i’w bywyd.
Noder y gallai’r Canlyniad Lefel System hwn hefyd gynnwys sicrhau mai’r amgylchedd lle mae Dinasyddion yn byw eu bywydau yw’r gorau y gall fod. Mae’r amgylchedd yn annog yr amgylchedd ffisegol ar gyfer lles meddyliol a chorfforol, ond hefyd y seilwaith gofal a chymorth y gall pobl ryngweithio ynddo.