Diffiniadau o Ganlyniadau
Gweithlu mwy grymus
Mae’r Canlyniad Lefel System hwn yn ymwneud â sicrhau bod dinasyddion a’u teuluoedd yn cael gofal a chymorth mwy rhagorol gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n llawnach ac sy’n cymryd mwy o ran. Mae’n cynnwys y cyfleusterau, yr offer cywir i wneud y gwaith, lefelau staffio, arweinyddiaeth ac integreiddio gwasanaethau (cydgysylltiedig), system syml, cysyniadau cyffredin ar risg, ‘diddymu ffiniau gwasanaethau a datblygu diwylliant a gwerthoedd sy’n rhychwantu ffiniau proffesiynol a sefydliadol’. Mae agwedd hefyd ar allu’r gweithlu, a lefelau awdurdodi uwch (i leihau oedi oherwydd penderfyniadau lefel uwch / o bell) – “Rydym yn ymddiried ac yn galluogi staff i wneud y pethau cywir ar yr adeg a’r cyflymder cywir i bobl, i’w wneud yn well.”