Hoffai’r tîm Dysgu a Datblygu Dementia eich cyflwyno i’n Hyfforddwyr Agweddau Positif at Ofal (PAC) newydd.
Nod hyfforddwyr PAC yw:
- Helpu eraill i weld gofal o safbwynt y rhai sy’n byw gyda dementia
- Cysylltu dysgwyr â theori newid yn yr ymennydd a deall sut y gall pobl sy’n byw gyda dementia gael eu galluogi i fyw’n dda.
- Cyflwyno a chysylltu dysgwyr â sgiliau PAC a’u cefnogi i ddeall sut y gall y rhain gefnogi a galluogi gofal sy’n canolbwyntio ar berthynas.
- Meithrin y sgiliau i werthfawrogi a galluogi cyfraniad pawb.
Erbyn hyn mae pum hyfforddwr PAC, dau hyfforddwr PAC ac un ymgynghorydd PAC yn gweithio ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i gefnogi’r gwaith dementia ar draws y bartneriaeth.
Pwy bynnag ydych chi, os ydych am ddeall mwy am fyw gyda dementia, gofalu am rywun sydd â dementia neu ddod yn gyfaill dementia, cysylltwch â’r Tîm Dysgu a Datblygu Dementia ar [email protected]