Cystadleuaeth Gofalwyr Ifanc: Darganfyddwch fwy a chyflwynwch eich cais yma

Trosolwg

Mae RPB Caerdydd a’r Fro yn cynnal cystadleuaeth i ddarganfod sut y byddech chi’n hyrwyddo Siarter Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro i Ofalwyr Ifanc ar draws ein rhanbarth.

Rydym yn chwilio am ddosbarthiadau/grwpiau o bobl ifanc i gyflwyno ffilm fer, nodyn llais neu gartŵn y gellid ei ddefnyddio ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Rydym hefyd yn gofyn i chi feddwl am ble yr hoffech i ni hyrwyddo’r Siarter. Rhowch wybod i ni yn eich cais isod.

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ysgolion, clybiau ieuenctid a grwpiau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl yng nghyfnod allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9), yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.

Ar y dudalen hon mae ystod o adnoddau hysbysebu enghreifftiol rydyn ni wedi’u creu a allai eich ysbrydoli, ond mae croeso i chi fod mor greadigol ag y dymunwch. Y peth pwysig yw dweud wrth ofalwyr ifanc am y Siarter a’u hannog i gael rhagor o wybodaeth.

Gwobrau

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan banel, a fydd yn cynnwys gofalwyr ifanc a bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r Siarter.

Bydd y cais buddugol yn derbyn taleb y gellir ei gwario mewn amrywiaeth o leoedd gan gynnwys Argos, WH Smith a Waterstones i brynu adnoddau y gall pawb yn y dosbarth/grŵp eu defnyddio.

Gwobr gyntaf: Taleb £100

Yr ail wobr: Taleb £50

Y drydedd wobr: Taleb £25

Bydd angen cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Mehefin 2023 ar y ffurflen isod.

Cyflwyno eich cais

Rydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf

  • Dogfennau Testun (ar gyfer animeiddiad/byrddau stori) — PDF, MS ac OpenOffice Excel (.xls, .xlsx), MS ac OpenOffice Word (.doc, .docx), MS ac OpenOffice PowerPoint (.ppt, .pptx), Rich Text File (.rtf)
  • Ffeiliau Sain — mp3, wav, x-wav
  • Ffeiliau fideo — mp4, mpeg, mov (Quicktime), FLV
  • Ffeiliau Delwedd — jpg/jpeg, gif, png, bmp
  • Arall- zip, xml

Awgrymiadau defnyddiol

Gall maint ffeil fod hyd at 200 MB, fodd bynnag, mae’n arfer gorau i geisio cadw maint eich ffeil i tua 5MB. Po fwyaf yw’r ffeil, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i’w lawrlwytho, yn enwedig ar ffonau symudol a chysylltiadau rhyngrwyd arafach.

Dylech ail-enwi ffeiliau sydd ag enwau hir neu gymeriadau arbennig i enw bach syml.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â ni yn [email protected]

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content