Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am iechyd a lles yng Nghaerdydd a’r Fro
Beth yw Safle Rhannu Gwybodaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro?
Mae Safle Rhannu Gwybodaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro (RISS) yn adnodd ar-lein sy’n dwyn ynghyd data allweddol, dienw gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a phartneriaid trydydd sector. Un o’i brif ddibenion yw darparu mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata i’r ‘system’ iechyd a gofal cymdeithasol leol i gefnogi’r gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau.
Mae pedair cydran i’r RISS:
- Proffiliau’r boblogaeth: Data allweddol ac adroddiadau cyhoeddedig yn ymwneud â nodweddion ac anghenion ein poblogaeth leol a’n marchnad ofal.
- Taith trwy iechyd a gofal cymdeithasol: Archwiliadau i’r rhai sy’n ymuno â’n system iechyd a gofal cymdeithasol leol, natur y galw a’r defnydd hwn, ac effaith mentrau newid lleol.
- Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol (ROF): Yr wyth canlyniad a’r dangosyddion cyfatebol y cytunwyd arnynt yn rhanbarthol fel ffordd o ddeall a dangos tystiolaeth o effaith y system iechyd a gofal cymdeithasol leol ar les ein poblogaeth.
- Dangosfwrdd/‘Syllwr’ System Gyfan: Bydd yr adran hon, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, yn cynnwys y dangosfyrddau system gyfan, neu’r ‘syllwyr’ sydd o ddiddordeb i’r CAVRPB. Bydd hyn yn cynnwys syllwyr sy’n olrhain ac yn helpu i ddangos tystiolaeth o effaith mentrau newydd yn erbyn y status quo.
Sut alla i gael mynediad at RISS?
Mae’r RISS, a’r data dienw sy’n rhan ohono, yn cael eu cadw ar wefan sydd wedi’i diogelu gan gyfrinair i alluogi mynediad cyflym, hawdd a diogel. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella iechyd a lles dinasyddion lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cysylltwch â: [email protected]
 phwy y dylwn gysylltu os oes gen i unrhyw gwestiynau neu bryderon?
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut rydych yn defnyddio’r RISS. Os oes gennych unrhyw adborth, ymholiadau neu bryderon, rhowch wybod i ni drwy e-bostio tîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: [email protected].
“Mae’r platfform hwn yn rhoi cipolwg unigryw ar daith a chanlyniad cleifion trwy systemau iechyd a gofal. O safbwynt sefydliadol, mae’r gallu i ddeall taith y cleifion trwy amrywiol systemau nid yn unig yn llywio ble y gallwn gefnogi newid ond hefyd sut y gallwn fesur effaith y newid hwnnw i’n sefydliad ac i’r system ehangach. “
Ben Scott
Arweinydd Gwella Cwympiadau
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth AmbiwlansCymru
Ynglŷn â’r ROF
Mae ROF Caerdydd a’r Fro yn nodi nod, egwyddorion a gwerthoedd allweddol, nodau strategol ac wyth canlyniad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.
Ein Prif Flaenoriaethau
DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.
BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.