Siarter Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro
Mae gofalwyr ifanc yn wirioneddol bwysig i ni, i’r cymunedau lle maent yn byw ac i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Mae YMCA Caerdydd yn cynnal dau wasanaeth gofalwyr ifanc, un ym Mro Morgannwg a’r llall yng Nghaerdydd:
- I gael eich atgyfeirio at ein prosiect yng Nghaerdydd, cysylltwch â Phorth i Deuluoedd ar 03000 133 133
[email protected] - I gael eich atgyfeirio at ein prosiect yn y Fro, cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar 08000 327 322
[email protected]
Oedolion sy’n Ofalwyr Di-dâl
Ein Prif Flaenoriaethau
DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.
BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.