Cyfeirio ac Ymateb i Argyfwng

Caerdydd, Bro Morgannwg

Mae’r Gronfa Gofal Integredig wedi parhau i gefnogi Gwasanaeth Byw’n Annibynnol Cyngor Caerdydd a Chyswllt Un Fro Cyngor Bro Morgannwg. Mae’r ddau wasanaeth yn enghreifftio’r manteision y gall un pwynt mynediad i amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan bartneriaid eu cael ar gyfer dinasyddion lleol.

Hyb Lles a Menter Gymunedol Llanilltud Fawr

Bydd llawr gwaelod Tŷ Illtyd yn gweld ehangu’r gweithgareddau sydd ar gael i breswylwyr, meithrinfa a chanolfan newydd ar gyfer y GGM.

The first floor will have a sensory room which will

Bydd gan y llawr cyntaf ystafell synhwyraidd a fydd yn cael ei defnyddio gan blant lleol ag anableddau ar un diwrnod o’r wythnos gan Glwb Sunshine. Ar ddiwrnodau eraill bydd ar gael at ddefnydd yr ysgol a grwpiau allanol. Bydd gofod swyddfa ar gael i’w logi gan weithwyr unigol hunangyflogedig, sefydliadau trydydd sector sydd angen canolbwynt neu weithwyr iechyd proffesiynol sydd angen lle i ymarfer. Bydd y rhenti o weithfannau yn cynhyrchu incwm gwerthfawr ar gyfer y Trydydd Sector.

Mae adeilad hŷn, CF61, yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel canolfan frechu gan y Meddyg Teulu lleol. Tan fis Mehefin 2019 roedd yn lleoliad ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cymunedol a gynhelir gan ddarparwyr masnachol a darparwyr y trydydd sector.

View some more what we’ve achieved

Model Clwstwr Carlam a Rhagnodi Cymdeithasol

Cardiff, Vale of Glamorgan

Mae un o’n prosiectau Cronfa Drawsnewid wedi caniatáu i grŵp o feddygfeydd teulu yng Nghlwstwr De-orllewin Caerdydd i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

Cyswllt Un Fro

Cardiff, Vale of Glamorgan

Un pwynt cyswllt ar gyfer preswylwyr ym Mro Morgannwg a all ddelio’n uniongyrchol â cheisiadau am wybodaeth a chyngor am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a gwasanaethau cysylltiedig eraill.

Gwasanaeth Byw’n Annibynnol Caerdydd

Cardiff, Vale of Glamorgan

Mae Gwasanaethau Byw’n Annibynnol Caerdydd yn helpu pobl i gael mynediad at ystod eang o gymorth i’w helpu i fyw mor annibynnol â phosibl.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Astudiaethau Achos

Skip to content