Sicrhau bod gan Gaerdydd
a’r Fro wasanaethau sy’n gweddu i
anghenion pobl nawr ac i’r dyfodol 

Rydym yn cefnogi ein partneriaid i gomisiynu gwasanaethau a rennir yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd yn yr Asesiad Anghenion y Boblogaeth (dolen).

Rydym yn asesu a yw’r gwasanaethau presennol yn diwallu’r anghenion a nodir ac yn tynnu sylw at ba wasanaethau sydd mewn perygl yn Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (dolen).

Rydym yn cefnogi partneriaid i gydweithio i gomisiynu gwasanaethau sy’n gallu darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy rannu cyfrifoldeb am ofal pobl. 

  • Nodi pa wasanaethau sydd eu hangen. 
  • Llunio/cefnogi’r farchnad i ddiwallu anghenion pobl.​ 
  • Adolygu ac ailadrodd y camau hyn 

Comisiynu ar y Cyd a Chronfeydd Cyfunol

Er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gwasanaethau di-dor, mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio fwyfwy i gomisiynu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cyfuno eu cyllidebau i sicrhau nad yw hyn yn rhwystr i ddarparu gofal integredig. Mae’r BPRh yn gweithio gyda’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol i helpu i gefnogi partneriaid i wneud hyn.  

Mae rheoliadau ar waith sy’n ei gwneud yn ofynnol sefydlu cronfeydd cyfun mewn perthynas â:  

  • Arfer swyddogaethau cymorth teulu  
  • Swyddogaethau a fydd yn cael eu harfer ar y cyd o ganlyniad i’r Asesiad Poblogaeth a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, neu unrhyw gynllun a baratowyd o dan adran 14a;  
  • Arfer swyddogaethau llety gofal cartref.   

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion, darllenwch Rhan 9 Canllawiau Statudol (Trefniadau Partneriaeth).  

Cost gofal a
gosod ffioedd 

Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth preifat i ddeall faint mae’n ei gostio i ddarparu gofal yng nghartrefi a chartrefi gofal pobl eu hunain.  Bydd y rhaglen waith hon yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau gofal yn cael eu hariannu ar lefel gynaliadwy ac yn sicrhau eu hyfywedd hirdymor. 

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content