Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021-22 ac Adroddiad Gwerth Cymdeithasol 2019-22

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn falch o allu rhannu ein gwaith yn 2021-22, yn ogystal â’n cynnydd yn datblygu gwerth cymdeithasol dros y tair blynedd diwethaf. Er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i’n poblogaeth a’n partneriaid, gyda’n gilydd rydym wedi parhau i helpu pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i fyw eu bywydau gorau. 

Mae’r adroddiadau yn tynnu sylw at rywfaint o’r gwaith y mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gyflawni i wella bywydau pobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, gan gynnwys gwaith gan ein tair partneriaeth – Dechrau’n Dda, Byw’n Dda a Heneiddio’n Dda, a’r ffrydiau gwaith sy’n sail i’n gwaith, sy’n cynnwys comisiynu, datblygu ein gweithlu a chydweithio i rannu gwybodaeth. 


Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i edrych i’r dyfodol a rhannu ein huchelgeisiau a’n blaenoriaethau yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r rhain yn cynnwys: 

Dechrau’n Dda: 

  • Cyflymu ein gwaith ar iechyd a lles emosiynol i blant a phobl ifanc, yn enwedig wrth ddarparu llety diogel newydd i gynorthwyo gofal a chymorth parhaus yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty; 
  • Cryfhau ein ffocws ar gynllunio gofal a chymorth i bobl ifanc ag anableddau dysgu. 

Byw’n Dda: 

  • Creu a chyflwyno Siarter Gofalwyr Di-dâl i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael; 
  • Cryfhau ein ffocws ar gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu; 
  • Cyhoeddi Strategaeth Anabledd Ranbarthol Caerdydd a’r Fro ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc; 
  • Ymgorffori ein cod ymarfer ar gyfer pobl ag Awtistiaeth; 
  • Adeiladu cynlluniau a’r strwythur llywodraethu cywir er mwyn cefnogi’r gwaith o ddiwallu anghenion grwpiau blaenoriaeth allweddol eraill i fyw’n dda yn eu cymunedau. 

Heneiddio’n Dda: 

  • Parhau i ddarparu rhaglen @Home gan gyflymu cynlluniau Mynediad, Gofal Canolraddol, Datblygiad Clwstwr, Canolfannau Iechyd a Lles a Chynghrair y Fro yn benodol; 
  • Darparu strwythur diwygiedig i gefnogi datblygiad parhaus gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia a’u teuluoedd, gan ganolbwyntio ar gyfres o ganlyniadau wedi’u mireinio yn dilyn yr adolygiad diweddar o waith dementia hyd yn hyn; 
  • Symud ymlaen gyda’r gwaith o fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd. 

Hwyluswyr Partneriaeth: 

Bydd llwyddiant y rhaglen waith uchelgeisiol hon yn dibynnu ar gyflawni nifer o elfennau allweddol: 

  • Monitro canlyniadau: Defnyddio ein Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol a chreu mecanwaith monitro perfformiad newydd i sicrhau ein bod ni fel partneriaid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein rhanbarth. 
  • Gwerth Cymdeithasol: Sicrhau bod y canlyniadau hyn yn cynnwys arddangosiad o werth cymdeithasol ac ailsefydlu ein Fforwm Gwerth Cymdeithasol o dan arweiniad y Trydydd Sector. 
  • Cefnogi arloesedd drwy fuddsoddiad parhaus mewn Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol, sydd â theitl newydd, gan ledaenu arfer gorau ac arloesedd ar draws ein rhanbarth a thu hwnt. 
  • Adeiladu ar ein Fframwaith Cyfathrebu ac Ymgysylltu i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’n gwaith a’i fod yn cael ei lywio gan amrywiaeth gyfoethog o leisiau a phrofiadau. 
  • Gweithlu: Archwilio’r ffordd orau o gefnogi ein gweithlu ar draws y bartneriaeth, yn enwedig o ran recriwtio gofalwyr. 
  • Galluogi Digidol: Gwneud Caerdydd a Bro Morgannwg yn Rhanbarth Gofal Digidol er mwyn helpu pobl i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu gofal gwybodus. 
  • Comisiynu: Bwrw ymlaen â blaenoriaethau allweddol fel y nodwyd yn Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad. 
  • Cynllunio cyfalaf: Creu tîm llywio newydd i gyflawni rhaglen glir o flaenoriaethau cyfalaf yn unol â’n bwriadau strategol. 
Skip to content