Cystadleuaeth: Hysbysebu ein Siarter Gofalwyr Ifanc

Cystadleuaeth: Hysbysebu ein Siarter Gofalwyr Ifanc

Mae RPB Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gyhoeddi lansiad cystadleuaeth i bobl ifanc i hyrwyddo Siarter Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro i Ofalwyr Ifanc ar draws ein rhanbarth.

Gofalwr ifanc yw rhywun 18 oed ac iau sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na all ymdopi heb gefnogaeth o ganlyniad i salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Mae gofalwyr ifanc yn wirioneddol bwysig i ni, i’r cymunedau lle maent yn byw ac i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Mae Siarter Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro yn darparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Mae’n bwysig gofalu am ofalwyr ifanc eu hunain. Am y rheswm hwn, rydym yn gofyn i bobl ifanc gyflwyno eu syniadau gorau i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gwybod bod cefnogaeth ar gael ar eu cyfer.

Rydym yn annog dosbarthiadau/grwpiau o bobl ifanc i fod mor greadigol â phosibl a chyflwyno ffilm fer, nodyn llais neu gartŵn y gellid ei ddefnyddio ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ysgolion, clybiau ieuenctid a grwpiau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl yng nghyfnod allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9), yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan banel, a fydd yn cynnwys gofalwyr ifanc a bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r Siarter.

Bydd y cais buddugol yn derbyn taleb y gellir ei gwario mewn amrywiaeth o leoedd gan gynnwys Argos, WH Smith a Waterstones i brynu adnoddau y gall pawb yn y dosbarth/grŵp eu defnyddio.

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 30 Mehefin.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content