Ffeithiau am Ddementia…
Mae dementia yn fwy na phroblemau cof…
Mae dementia yn syndrom sy’n effeithio ar allu person i gofio, meddwl, gwneud penderfyniadau a chwblhau tasgau bob dydd.
Os ydych chi’n poeni, siaradwch â’ch meddyg teulu.
Mae addysg ar gael i bobl â dementia ddysgu am eu cyflwr / diagnosis…
Yng Nghaerdydd a’r Fro mae gennym grwpiau i gefnogi person sydd wedi cael diagnosis o ddementia.
Mae sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer, SOLACE, Effro, Nyrsys Admiral, Gofalwyr Cymru yn cynnig cymorth i ofalwyr di-dâl a chyfleoedd i gysylltu â gwasanaethau ehangach.
Mae Cymdeithas Alzheimer yn cynnal Rhaglenni Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr (CRISP) ar gyfer gofalwyr pobl â dementia, a grŵp cymorth cymheiriaid ar-lein.
E-bostiwch [email protected]
Cardiff and Vale host several Dementia Cafés that are free to attend…
Mae Caffis Dementia yn cynnig lle i ddod i gysylltu ag eraill a allai fod yn mynd trwy brofiadau tebyg fel y gallwch ymlacio a sgwrsio mewn amgylchedd cynhwysol.
Cynhelir Caffis Dementia yng Nghyncoed, Llanisien a’r Tyllgoed ac ar-lein.
Gall adnoddau / dogfennau fel Darllen Amdanaf Fi alluogi’r gofal a’r cymorth i berson â dementia ganolbwyntio arnynt fel unigolyn…
Mae ‘Darllen Amdanaf Fi’ yn llyfryn y gallwch ei gwblhau fel bod staff yn gwybod mwy amdanoch chi – eich bywyd, eich dewisiadau a’ch cynlluniau gofal.
Diwrnod y Corachod
Ar 2 Rhagfyr 2022 mae pobl ledled y DU, gan gynnwys Tîm Dysgu a Datblygu Dementia Caerdydd a’r Fro, yn gwisgo fel corachod i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Cymdeithas Alzheimer
Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol yr hoffen nhw ei rhannu â chi::
Ydych chi’n berson sydd â dementia neu’n ofalwr di-dâl i berson sydd â dementia?
Dysgwch am gefnogaeth leol:
Ydych chi’n fusnes a hoffai ddeall dementia neu ddysgu mwy am ddementia?
Rhagor o wybodaeth am gefnogaeth sy’n cael sylw ar y dudalen hon
Ffoniwch Dementia Connect ar 0333 150 3456 neu 03300 947 400 (Cymraeg) i gael eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd dementia a all ddarparu gwybodaeth a chymorth a’ch cyfeirio at wasanaethau yn eich ardal.
Pwy bynnag ydych chi, os ydych am ddeall mwy am fyw gyda dementia, gofalu am rywun sydd â dementia neu ddod yn gyfaill dementia, cysylltwch â’r Tîm Dysgu a Datblygu Dementia ar