Skip to content

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am iechyd a lles yng Nghaerdydd a’r Fro

Darganfyddwch sut mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn adeiladu cronfa ddata i rannu gwybodaeth a thaflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd ar draws ein rhanbarth

Beth yw Safle Rhannu Gwybodaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro?

Mae Safle Rhannu Gwybodaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro (RISS) yn adnodd ar-lein sy’n dwyn ynghyd data allweddol, dienw gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a phartneriaid trydydd sector. Un o’i brif ddibenion yw darparu mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata i’r ‘system’ iechyd a gofal cymdeithasol leol i gefnogi’r gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau.

Mae pedair cydran i’r RISS:

  • Proffiliau’r boblogaeth: Data allweddol ac adroddiadau cyhoeddedig yn ymwneud â nodweddion ac anghenion ein poblogaeth leol a’n marchnad ofal.
  • Taith trwy iechyd a gofal cymdeithasol: Archwiliadau i’r rhai sy’n ymuno â’n system iechyd a gofal cymdeithasol leol, natur y galw a’r defnydd hwn, ac effaith mentrau newid lleol.
  • Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol (ROF): Yr wyth canlyniad a’r dangosyddion cyfatebol y cytunwyd arnynt yn rhanbarthol fel ffordd o ddeall a dangos tystiolaeth o effaith y system iechyd a gofal cymdeithasol leol ar les ein poblogaeth.
  • Dangosfwrdd/‘Syllwr’ System Gyfan: Bydd yr adran hon, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, yn cynnwys y dangosfyrddau system gyfan, neu’r ‘syllwyr’ sydd o ddiddordeb i’r CAVRPB. Bydd hyn yn cynnwys syllwyr sy’n olrhain ac yn helpu i ddangos tystiolaeth o effaith mentrau newydd yn erbyn y status quo.

Sut alla i gael mynediad at RISS?

Mae’r RISS, a’r data dienw sy’n rhan ohono, yn cael eu cadw ar wefan sydd wedi’i diogelu gan gyfrinair i alluogi mynediad cyflym, hawdd a diogel. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella iechyd a lles dinasyddion lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cysylltwch â: hsc.integration@wales.nhs.uk

 phwy y dylwn gysylltu os oes gen i unrhyw gwestiynau neu bryderon?

Byddem wrth ein bodd yn clywed sut rydych yn defnyddio’r RISS. Os oes gennych unrhyw adborth, ymholiadau neu bryderon, rhowch wybod i ni drwy e-bostio tîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: hsc.integration@wales.nhs.uk.

  

“Mae’r platfform hwn yn rhoi cipolwg unigryw ar daith a chanlyniad cleifion trwy systemau iechyd a gofal.  O safbwynt sefydliadol, mae’r gallu i ddeall taith y cleifion trwy amrywiol systemau nid yn unig yn llywio ble y gallwn gefnogi newid ond hefyd sut y gallwn fesur effaith y newid hwnnw i’n sefydliad ac i’r system ehangach. “

Ben Scott
Arweinydd Gwella Cwympiadau
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth AmbiwlansCymru

Ynglŷn â’r ROF 

Mae ROF Caerdydd a’r Fro yn nodi nod, egwyddorion a gwerthoedd allweddol, nodau strategol ac wyth canlyniad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro. 

Diffiniadau o Ganlyniadau

Cynyddu amser i bobl fyw eu bywydau

Mae’r Canlyniad Lefel System hwn yn ymwneud â deall ac osgoi’r amser y mae’r system yn ei wastraffu i ddinasyddion. Mae’n cynnwys oedi o ran derbyn cymorth, gwneud i bobl fynd drwy gylchoedd diangen ac yn gyffredinol eu gadael yn rhy hir heb ateb, er enghraifft aros i gael eu rhyddhau o ofal yn ôl i’w cartrefi eu hunain.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Astudiaethau Achos