Gwneud gwahaniaeth: Motion Control Dance

Bu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yn cydweithio i ddarparu grantiau bach yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl Caerdydd a’r Fro.

Derbyniodd Motion Control Dance arian ar gyfer cyfrifiadur sydd wedi caniatáu iddynt gadw mewn cysylltiad â phobl a hyrwyddo eu dosbarthiadau. Mae’r ffilm fer hon yn egluro’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar fywydau pobl ar draws ein rhanbarth.

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a ddarparodd arian gan y Gronfa Gofal Integredig. Mae hyn yn canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, gofal integredig a gwasanaethau cymorth a darparu modelau cyflenwi amgen.

Motion Control Dance

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content