Senedd Gofalwyr Di-dâl

Caerdydd a’r Fro 2023

Ymunwch â ni yn Senedd Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro i helpu i lunio dyfodol gofal

Mae Senedd Gofalwyr Caerdydd a’r Fro yn ddigwyddiad unigryw sydd wedi’i gynllunio’n benodol gan ofalwyr, ar gyfer gofalwyr a chyda gofalwyr

Dyddiad: 20 Tachwedd 2023

Lleoliad: Gerddi Sophia, Caerdydd

Amser: 9:15-16:30

Prif Siaradwr: Heledd Fychan AS

Mae Senedd Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro yn ymateb uniongyrchol i lais a barn Gofalwyr Di-dâl ein rhanbarth ac fe’i cynlluniwyd i roi blaenoriaeth i’ch presenoldeb. 

Rydym wedi gallu sicrhau cyllid gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) i gyfrannu hyd at £80 at gymorth gofal disodli, os oes angen i chi drefnu hyn er mwyn gallu mynychu’r Senedd. Os hoffech wneud cais am y taliad hwn bydd ffurflen fer i’w llenwi yn y Senedd. Dewch â’ch manylion banc gyda chi ar y diwrnod. 

Gallwch drefnu eich lle drwy lenwi’r ffurflen gofrestru yn https://participate.cavrpb.org/embeds/projects/24563/survey-tools/28544 

Mae’r Senedd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, sy’n cynnwys cinio a lluniaeth. Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio am ddim. Edrychwch ar y ffurflen trefnu lle i gael gwybodaeth am sut y bydd lleoedd am ddim yn cael eu dyrannu. 

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’r Senedd.  

Rhannwch y wybodaeth hon ag unrhyw ofalwyr di-dâl yr ydych yn eu hadnabod o Gaerdydd a Bro Morgannwg. Byddem wrth ein bodd pe baent yn mynychu hefyd. 

* Trefnwch eich lle yn fuan, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. 10 Tachwedd 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer trefnu lle.

Bydd y Senedd yn cael ei ffrydio’n fyw. Os hoffech ragor o fanylion am hyn, anfonwch e-bost at [email protected]

Agenda:

  • 09:15 – 10:00 – Cyrraedd a Lluniaeth
  • 10:00 – Areithiau Agoriadol
  • 10:30 – Gofal Di-dâl – Ceri Higgins
  • 10:45 – Cyd-gynhyrchu – Rob Jones a Natalie Robertson
  • 11:15 – Rhan 16 – Menter Gymdeithasol
  • 11:45 – EGWYL
  • 12:00 – Panel Proffesiynol
  • 13:00 – CINIO
  • 13:45 – Rydym ni’n Gofalu – Katy Styles
  • 14:00 – Panel Rhanddeiliaid – Rhan 1
  • 14:45 – EGWYL RHWYDWEITHIO
  • 15:15 – Panel Rhanddeiliaid – Rhan 2
  • 16:00 – Areithiau Cloi
  • 16:10 – 16:30 Sesiwn Lles (Ceri Higgins – Iaith y Ffan yn Oes Fictoria)

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content