Ymunwch â ni yn Senedd Gofalwyr Caerdydd a’r Fro i helpu i lunio dyfodol gofal

Senedd Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro

Mae Senedd Gofalwyr Caerdydd a’r Fro yn ddigwyddiad unigryw sydd wedi’i gynllunio’n benodol gan ofalwyr, ar gyfer gofalwyr, a chyda gofalwyr

Dewch draw i gwrdd â’r sefydliadau lleol sy’n darparu gwasanaethau a chefnogaeth. Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a chlywed am y cynlluniau a’r newyddion diweddaraf.

Mae hwn hefyd yn gyfle i gysylltu, rhannu profiadau, ac adeiladu rhwydwaith cymorth gyda gofalwyr eraill.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ac yn cynnwys cinio a lluniaeth.

Edrychwn ymlaen at roi croeso cynnes i chi i’r digwyddiad.

Dyddiad: 20 Tachwedd 2023

Lleoliad: Gerddi Sophia, Caerdydd

Amser: 9:15-16:30

Prif Siaradwr: Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol / Heledd Fychan AS

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content