Lansio Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro1 wedi lansio Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro yn y Deml Heddwch, Caerdydd ar 24 Mawrth 2023, a fabwysiadwyd gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r Siarter yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt ac i’n cymunedau yn gyffredinol. Mae’n nodi ymrwymiadau a fydd yn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod a bod partneriaid yn cefnogi’r ansawdd bywyd gorau posibl i ofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Bro Morgannwg (Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol):
“Mae’r Siarter yn dangos ein hymroddiad i weithio gyda’n gilydd, mewn partneriaeth, i ddatblygu a darparu’r cymorth gorau sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau a rennir.”
“Rydym yn credu’n gryf bod cydweithio i gefnogi gofalwyr di-dâl yn gam cadarnhaol i’r ardal. Mae’r Siarter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau’r canlyniadau gorau i ofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt a bydd yn rhoi cyfeiriad clir i ni ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r Siarter yn cyflwyno wyth ymrwymiad2, yr ydym wedi’u datblygu drwy wrando ar beth sydd gan ofalwyr di-dâl i’w ddweud am yr hyn sydd bwysicaf iddynt.”
Dywedodd Bobbie-Jo Haarhoff a Mike O’Brien, Cynrychiolwyr RPB ar gyfer Gofalwyr Di-dâl:
“Fel Cynrychiolwyr Gofalwyr Di-dâl ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, roeddem yn pryderu bod cymaint o bobl ddim yn ymwybodol eu bod yn ofalwyr i’w hanwyliaid a ddim yn cael eu cydnabod fel eiriolwyr naturiol neu anffurfiol, ond dilys, ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt.”
“Mae tua 1 o bob 10 o bobl yn ein rhanbarth yn darparu gofal di-dâl, ond mae llawer wedi dweud wrthym nad oeddent yn sylweddoli eu bod yn ofalwyr di-dâl nes iddynt gyrraedd “pwynt argyfwng”. Ffactor arwyddocaol yw’r anhawster i gael eich cydnabod fel gofalwr di-dâl.”
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Siarter yn ceisio helpu pobl i adnabod a ydynt yn ofalwyr di-dâl a bydd yn hyrwyddo cydnabyddiaeth o rôl gofalwyr di-dâl a sut y gallwn gael ein cefnogi.”
“Rydym yn gwybod bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cymaint ac yn credu y bydd yr ymrwymiadau clir ac amserol hyn yn helpu’r sefydliadau allweddol i gydweithio i godi ymwybyddiaeth o ofal di-dâl a rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl i barhau i ofalu mewn ffordd gynaliadwy fel na fydd yn rhaid i bobl fyth gyrraedd pwynt argyfwng cyn iddynt gael unrhyw gymorth.”
Ein Prif Flaenoriaethau
DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.
BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.