Model Clwstwr Carlam a Rhagnodi Cymdeithasol

Cardiff, Vale of Glamorgan

Mae un o’n prosiectau Cronfa Drawsnewid wedi caniatáu i grŵp o feddygfeydd teulu yng Nghlwstwr De-orllewin Caerdydd i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

Y datblygiadau allweddol ar gyfer y clwstwr oedd:

I gefnogi pobl yn well wrth gael eu rhyddhau o’r ysbyty

Gwella cysylltiadau â gwasanaethau byw’n annibynnol drwy ddull amlddisgyblaetho

Ac arloesi llwyfan rhagnodi cymdeithasol newydd.

ER BOD COVID-19 WEDI LLESTEIRIO’R DDARPARIAETH, PARHAODD Y GWAITH I WELLA CANLYNIADAU I DDINASYDDION LLEOL:

Cyfeiriodd meddygon teulu at 277 o gleifion drwy’r llwyfan rhagnodi cymdeithasol (amgen i ddulliau traddodiadol) ar gyfer cymorth a chefnogaeth.

Trafododd timau amlddisgyblaethol yn y gymuned 231 o gleifion unigol.

Cysylltodd 4,740 o gleifion i gynnig cymorth a chyfeirio.

Gofal Canolraddol

Mae Cronfeydd ICF a Thrawsnewid yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau gofal canolraddol sy’n rhoi’r gofal sydd ei angen ar ddinasyddion mor agos at eu cartref eu hunain â phosibl. Gellir derbyn dinasyddion lleol o’u cartrefi (camu i fyny), neu o un o’r ysbytai mwy (camu i lawr).

View some more what we’ve achieved

Cyfeirio ac Ymateb i Argyfwng

Cardiff, Vale of Glamorgan

Mae’r Gronfa Gofal Integredig wedi parhau i gefnogi Gwasanaeth Byw’n Annibynnol Cyngor Caerdydd a Chyswllt Un Fro Cyngor Bro Morgannwg.

Cyswllt Un Fro

West Cardiff

Un pwynt cyswllt ar gyfer preswylwyr ym Mro Morgannwg a all ddelio’n uniongyrchol â cheisiadau am wybodaeth a chyngor am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a gwasanaethau cysylltiedig eraill.

Gwasanaeth Byw’n Annibynnol Caerdydd

Caerdydd

Mae Gwasanaethau Byw’n Annibynnol Caerdydd yn helpu pobl i gael mynediad at ystod eang o gymorth i’w helpu i fyw mor annibynnol â phosibl.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Astudiaethau Achos

Skip to content