Profiad Cydlynol o Wasanaethau

Wrth wraidd y rhaglen @Gartref yw sicrhau y bydd gennych brofiad cydgysylltiedig o wasanaethau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu, os oes angen i chi gael mynediad at wasanaethau iechyd, gofal a chymorth, byddwn yn rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol i leihau’r nifer o weithiau y mae angen i chi rannu’ch stori â gwahanol weithwyr iechyd a gofal proffesiynol gan ein bod yn gwybod y gall hyn beri rhwystredigaeth a gofid mawr.  

Er mwyn sicrhau hyn, mae’r GIG, cynghorau lleol, a sefydliadau’r trydydd sector sy’n rhan o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y rhanbarth yn cydweithio i ffurfio timau amlddisgyblaethol. Mae’r timau hyn yn dod ag amrywiaeth o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ynghyd yn rheolaidd, gan gynnwys meddygon teulu, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, gofalwyr, darparwyr trydydd sector, ac arbenigwyr gofal cymdeithasol i adolygu’r dull sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich gofal a sicrhau eich bod wedi’ch cysylltu ag unrhyw wasanaeth sydd ei angen arnoch.  

Bydd timau amlddisgyblaethol wedi’u trefnu o amgylch Clystyrau Gofal Sylfaenol, a fydd yn helpu i deilwra’r gwasanaethau a ddarperir mewn ardal benodol i anghenion y boblogaeth leol a sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi gyda mynediad at wasanaethau sydd mor agos â phosibl i’ch cartref a’ch cymuned, gan eich cefnogi i fyw yn annibynnol mor hir â phosibl.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content