Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad

Rydym yn gwybod y gall fod yn aneglur pwy i gysylltu â nhw pan fydd angen i chi siarad â rhywun pan fydd angen cymorth arnoch i aros yn annibynnol a gartref. Bydd y rhaglen @Gartref yn sicrhau y gallwch gael mynediad at y gwasanaethau iechyd a chymorth sydd eu hangen arnoch mor rhwydd â phosibl. Mae timau o bob rhan o’r GIG, cynghorau lleol a’r trydydd sector yn gweithio’n galed i greu ‘un pwynt mynediad’ ar gyfer pob gwasanaeth cymorth i oedolion ni waeth pwy sy’n eu darparu.

Ar y dechrau, bydd gwahaniaethau o ran pwy i gysylltu â nhw i gael mynediad at wasanaethau yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, ond yn y dyfodol, rydym yn awyddus i bobl allu cael gafael ar gymorth yn yr un ffordd ble bynnag maen nhw’n byw.

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd…

Mae gan Gyngor Caerdydd Bwynt Cyswllt Cyntaf (PCC) sef ffordd unigol o gael mynediad at eich holl anghenion byw yn annibynnol, fel:

  • Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol
  • Swyddog Ymweliadau Lles
  • Tîm Cyfleoedd Dydd
  • Gwasanaeth Cyfleusterau i Bobl Anabl;
  • Cymorth yn ôl yr Angen
  • Tîm Adnoddau Cymunedol
  • Y ‘Fyddin Binc’ yn Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Gofal Cymdeithasol

Mae’r gwasanaeth PCC yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad wedi’u teilwra i bobl â’r gymuned ataliol a gwasanaethau statudol. Mae’r gwasanaeth PCC yn cynnwys staff medrus iawn ar ben arall ffôn a all eich helpu i aros gartref a chysylltu â’ch cymuned. Byddan nhw’n gwrando, ac yn clywed beth sy’n bwysig i chi, ac yn cytuno gyda chi ar beth sydd ei angen arnoch i sicrhau y gallwch gadw eich annibyniaeth ac aros yn eich cartref eich hun mor hir â phosibl.  Byddan nhw’n darparu gwybodaeth a chyngor wedi’u teilwra sy’n bodloni eich nodau, a beth sy’n bwysig i chi. Os na allan nhw ddiwallu unrhyw anghenion sydd gennych gyda chymorth cymunedol, byddan nhw, gyda’ch cytundeb chi, yn sicrhau bod asesiad mwy cynhwysfawr yn cael ei gynnal gan Therapydd Galwedigaethol, neu Weithiwr Cymdeithasol, a’r cyfan yn rhan o’r PCC.

P’un a oes angen triniaeth ysbyty wedi’i chynllunio arnoch, neu rydych yn cael eich rhyddhau o’r ysbyty, neu’n cael mynediad at wasanaethau gofal neu gymorth yn y gymuned, bydd pwyslais gwirioneddol ar beth sy’n bwysig i chi mewn cysylltiad â’ch gofal. Bydd hyn yn digwydd trwy “Beth sy’n Bwysig?” sef sgwrs lle mae eich anghenion unigol, a beth sy’n bwysig i chi, eich nodau yn cael eu cytuno ac rydych yn cael eich paru â’r cymorth iawn, yn y lle iawn i’w cyrraedd. Gallai hyn arwain at wasanaethau cymunedol, gweithio gyda’n swyddogion ymweliadau Lles, neu asesiad therapi galwedigaethol, dull ail-alluogi seiliedig ar gryfderau sy’n edrych ar eich rhwydwaith gofal cyfan i’ch helpu i aros gartref a byw yn annibynnol. Os oes gennych anghenion gofal mwy cymhleth, fel gofal gartref, neu ofal preswyl, bydd gweithwyr cymdeithasol yn parhau i sicrhau eich bod yn cael y cymorth iawn. 

Nodwedd allweddol arall o wella mynediad at wasanaethau yw’r Gwasanaeth Ymweliadau Lles, gall ein swyddogion lles ymweld â chi gartref, adolygu eich amgylchedd byw, a thrafod beth sy’n bwysig i chi. Yna byddan nhw’n gallu eich cysylltu fel sy’n briodol â gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth gan gynnwys grwpiau cymunedol, cymorth cysylltiad digidol, cyngor ar ddyledion, mynediad at nwyddau gwyn, a chymorth gyda materion bob dydd. Fel gweithwyr proffesiynol hyfforddedig, gallan nhw hefyd atgyfeirio’n uniongyrchol ar gyfer cymhorthion ac offer lefel isel heb orfod cynnwys gweithiwr proffesiynol arall, gan eich helpu gyda beth sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosibl.

Yn olaf, os byddwch yn cael eich hun mewn gofal ysbyty am gyfnod o amser ond yn cael eich rhyddhau a’ch dychwelyd adref – neu i leoliad gofal cymunedol os oes angen cymorth ychwanegol arnoch – mae Hyb Rhyddhau wedi’i greu yn Ysbyty Athrofaol Cymru a fydd yn dod â thîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol ynghyd a fydd yn eich cefnogi gyda throsglwyddiad diogel ac amserol o’r ysbyty ac yn eich cysylltu â’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch yn barhaus. Bydd y tîm yn yr Hyb Rhyddhau yn gweithio mor galed â phosibl i’ch cefnogi i fynd adref ond os nad yw hynny’n bosibl, bydd yn dod o hyd i’r lleoliad cymunedol tymor byr iawn i chi nes eich bod yn barod i symud adref. Bydd tîm cyfeillgar o staff, a elwir y ‘Fyddin Binc’ oherwydd y wisg binc lachar, yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a’ch dymuniadau yn yr Hyb Rhyddhau a sicrhau bod beth sy’n bwysig i chi yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i’ch helpu i adael yr ysbyty.

Os ydych chi’n byw ym Mro Morgannwg

Mae gan Fro Morgannwg un rhif ffôn sy’n eich cysylltu ag ystod o wasanaethau gofal a chymorth, drwy ganolfan gyswllt y Cyngor, Cyswllt Un Fro. Mae’r ganolfan gyswllt yn cyflogi trinwyr galwadau profiadol sydd â mynediad at gynghorwyr arbenigol, fel y gallan nhw eich cyfeirio i’r gwasanaethau sy’n gweddu orau i’ch anghenion ar draws nyrsio cymunedol a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion fel gwastraff, tai a budd-daliadau.

Yn y dyfodol, bydd y gwasanaeth drwy ganolfan Cyswllt Un Fro yn cael ei ehangu i roi un llwybr i chi i gael hyd yn oed mwy o wasanaethau iechyd, gofal a chymorth ym Mro Morgannwg. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei alw y gwasanaeth ‘Materion Lles’. Ein huchelgais yw i chi a’ch rhwydwaith gofalu allu cael mynediad at wasanaethau mor gyflym a rhwydd â phosibl yn y dyfodol, gyda chofnod yn cael ei gadw o beth sy’n bwysig i chi.

Bydd timau amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd i adolygu beth sy’n bwysig yn eich gofal ac yn gweithio gyda chi i’ch cefnogi i fyw yn annibynnol ac aros gartref mor hir â phosibl ac atal canlyniadau iechyd negyddol, fel cwympiadau. I wneud hyn, bydd y timau amlddisgyblaethol yn adolygu’r hyn sydd bwysicaf i chi ac yn eich cysylltu â’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, o gymhorthion ac offer i wasanaethau teleofal a nyrsio i oedolion.

Ein huchelgais yw bod y gwasanaeth Materion Lles yn rhoi ffordd unigol i chi o gael mynediad at wasanaethau gan gynnwys:


Gwasanaethau Iechyd       

  • Ymataliad
  • Gwasanaeth Clwyfau
  • Tîm Ymateb Acíwt (TYA)
  • Nyrsys Ardal
  • Fflebotomeg
  • Gwasanaeth Cyhyrysgerbydol ar gyfer pwynt cyswllt cyntaf ffisiotherapi (ar sail clwstwr)
  • Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl (clwstwr)
  • Gwasanaeth cwympiadau (dan arweiniad ffisiotherapi)
  • Dychwelyd a rheoli offer (gwelyau)

Gwasanaethau’r Cyngor

  • Cysylltiadau Cwsmeriaid – holl brif wasanaethau rheng flaen y cyngor a diogelu
  • Therapi galwedigaethol / cymhorthion ac offer
  • Gwasanaeth Byw’n Annibynnol – addasiadau (Uchelgais)

Gwasanaethau’r Trydydd Sector

  • Cyswllt Cymunedol Presgripsiynu Cymdeithasol
  • Mind yn y Fro

Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro a Gwasanaeth Brysbennu Cymunedol


Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content